Mae Theomemphus yn Hen
nofel arbrofol gan Dafydd Rowlands
Nofel arbrofol gan Dafydd Rowlands yw Mae Theomemphus yn Hen: Nofel/Cerdd. Gwasg Christopher Davies a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1977.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Dafydd Rowlands |
Cyhoeddwr | Gwasg Christopher Davies |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1977 |
Mae'r teitl yn ddyfyniad o frawddeg gan Kate Roberts: "Mae Theomemphus yn hen o ran oed ond yn newydd o hyd", sydd yn ei thro yn cyfeirio at gerdd ddramataidd Bywyd a Marwolaeth Theomemphus (1764) gan William Williams, Pantycelyn.
Yn ôl broliant y llyfr (1977):
Nofel arbrofol a hunan-ymchwilgar yw Mae Theomemphus yn Hen, nofel a ysgrifennwyd, i raddau helaeth, ar ddull a thechneg "llif yr ymwybod". Y mae'n nofel gignoeth o onest, ac yn un o'r nofelau hynny na all ond ysgogi ymateb, boed hwnnw'n chwryn yn ei herbyn neu'n gadarn o'i phlaid.
Llyfryddiaeth
golygu- Ioan Williams, "Nofel/Cerdd Mae Theomemphus yn Hen", yn Rhyddid y Nofel, gol. Gerwyn Wiliams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999), tt.238-45
- Catrin Heledd Richards, "Mae Theomemphus yn Hen" gan Dafydd Rowlands: Astudiaeth Destunol, Ryngdestunol a Chyd-destunol (traethawd PhD, Prifysgol Abertawe, 2017)