Dafydd Rowlands
Roedd Dafydd Rowlands (25 Rhagfyr 1931 – 26 Ebrill 2001) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn ddarlithydd, ac fardd ac yn llenor. Fe'i ganwyd ym Mhontardawe. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pontardawe, lle bu ei athro Cymraeg, Eic Davies, yn ddylanwad mawr arno. Roedd yr actores Sian Phillips yn un o'i gyfoedion. Oddi yno aeth i Goleg y Brifysgol Abertawe, lle derbyniodd radd yn y Gymraeg, ac yna i'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin i baratoi ar gyfer y weinidogaeth. Ar ôl cyfnod yn y weinidogaeth aeth i ddysgu yn Ysgol Ramadeg Y Garw ac yn 1968 fe'i penodwyd ar staff Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn yr Adran Gymraeg, ac yn ddiweddarach dechreuodd ysgrifennu sgriptiau i'r teledu.
Dafydd Rowlands | |
---|---|
Ganwyd | 25 Rhagfyr 1931 ![]() |
Bu farw | 26 Ebrill 2001 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Fflint 1969 a'r Goron a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro 1972. Bu'n archdderwydd (Dafydd Rolant) o 1996 i 1999.
LlyfryddiaethGolygu
- Meini (1972). Barddoniaeth.
- Ysgrifau yr Hanner Bardd (1972). Ysgrifau.
- Yr Wythfed Dydd (1975). Barddoniaeth
- Mae Theomemphus yn Hen (1977). Nofel/Cerdd.
- Paragraffau o Serbia = Paragraphs from Serbia (1980) Barddoniaeth/Rhyddiaith
- Licyris Olsorts (1995) Straeon seiliedig ar gyfres deledu.
- Sobers a Fi (1995). Barddoniaeth.
AstudiaethauGolygu
- Alun Jones, "Holi Dafydd Rowlands", Yr Aradr, 6 (1995), 152-201
- Ioan Williams, "Nofel/Cerdd Mae Theomemphus yn Hen", yn Gerwyn Wiliams, gol., Rhyddid y Nofel (1999), 238-245
- Robert Rhys, "Dafydd Rowlands", yn Y Patrwm Amryliw Cyfrol 2 (2006), 64-75