Maen Corbalengus
maen hir yng Nghereigion
Carreg arysgrifiedig o'r 6g yw Maen Corbalengus neu Maen Corbalengi, sy'n sefyll mewn cae rhwng Penybryn a Thre-saith yn ne Ceredigion.
Math | maen hir, carreg arysgrifenedig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Penbryn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.134068°N 4.50133°W |
Cod OS | SN2890251371 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CD049 |
Ceir arysgrif Lladin ar y garreg sy'n darllen fel hyn:
- CORBALENGI IACIT ORDOVS
- "[Yma y] gorwedd Corbalengus yr Ordoficiad"
Cartref yr Ordoficiaid (Lladin: Ordovices), un o lwythau Celtaidd Cymru gynnar, oedd gogledd Cymru (ac eithrio y gogledd-ddwyrain lle trigai'r Deceangli, a phenrhyn Llŷn lle trigai'r Gangani). Ond mae Ceredigion ymhell i'r de o diriogaeth yr Ordoficiaid ac mae'n debyg felly fod Corbalengus wedi ymfudo i Geredigion o'r gogledd.
Ni wyddys dim am Corbalengus. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd teyrnas Ceredigion gan Ceredig, un o "feibion" Cunedda, yr arweinydd o'r Hen Ogledd a sefydlodd deyrnas Gwynedd ganol y 5g.