Tre-saith

pentref yng Ngheredigion

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Tre-saith (hefyd: Tresaith).[1] Fe'i leolir ar lan Bae Ceredigion tua 8 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Aberteifi a thua milltir a hanner o Aberporth, i'r gorllewin.

Tre-saith
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPenbryn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1341°N 4.5145°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN275515 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Llun o Dre-saith neu Draeth-saith

Mae Tre-saith yn gorwedd ym mhlwyf hanesyddol a chymuned gyfoes Penbryn. Cofnodir 'Traeth Saith' fel ffurf arall ar yr enw.[2]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]

Yn eglwys y plwyf ceir beddrod y nofelydd Allen Raine a fu'n adnabyddus ar droad yr 20g am ei nofelau Cymreig a Cheltaidd.[2] Mae'r canwr a'r actor Dewi 'Pws' Morris yn byw yn y pentref.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 17 Rhagfyr 2019
  2. 2.0 2.1 T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1953), tud. 89.
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU