Maen Penddu
ym Mhwrdeistref Sirol Conwy
Maen hir o Oes Newydd y Cerrig neu efallai Oes yr Efydd ydy Maen Penddu, a leolir ar lethrau gogleddol Tal y Fan rhwng Penmaenmawr a Henryd, Sir Conwy; cyfeirnod OS: SH738735.
Math | maen hir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.244164°N 3.891172°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN126 |
Disgrifiad
golyguSaif y maen hir unigol hwn ar y ffin rhwng cymunedau Penmaenmawr a Henryd. Mae ffiniau'r cymunedau modern hyn yr un â ffiniau'r plwyfi eglwysig, sef Dwygyfylchi a Henryd. Roedd yn arfer cyffredin dewis henebion amlwg i nodi ffiniau hen blwyfi. Mae'n gorwedd ar darn o dir gweddol wastad rhwng Cefn Maen Amor a llethrau gogleddol Tal y Fan.
Gerllaw ceir dwy heneb gynhanesyddol arall. Mae Cylch cerrig Cefn Maen Amor yn gylch o gerrig bychan iawn, llai na throedfedd o uchder. Yn agos iddo ceir carnedd gron.