Henryd

pentref a chymuned yng Nghonwy

Pentref bach a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Henryd.[1][2] Mae'r pentref gwledig tawel yn gorwedd yn rhan isaf Dyffryn Conwy ar lan orllewinol Afon Conwy, tua 1 filltir o'r afon honno a thua 4 milltir o dref Conwy. Rhed Afon Henryd trwy'r pentref, sy'n cymryd ei enw o'r "hen ryd" ar yr afon honno.

Henryd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth715, 672 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,913.76 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.253°N 3.853°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000118 Edit this on Wikidata
Cod OSSH769747 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Map

Saif y rhan hynaf o'r pentref o gwmpas yr hen gapel, a godwyd yn 1822, ar groesffordd lle cwrdd y lôn fach o Gonwy â lôn dawel arall sy'n dringo i'r ffriddau uchel ar lethrau dwyreiniol Tal-y-Fan (yr olaf o'r Carneddau). Dwy filltir i'r de-orllewin mae hen eglwys Llangelynnin. Tua milltir o Henryd mae Melin Wenddar.

Yn rhan newydd y pentref, i'r gogledd o'r groesffordd, ceir ysgol gynradd a nifer o dai newydd. Mae Cymreictod y pentref wedi dirywio cryn dipyn dros y blynyddoedd gan fod yr A55 mor agos.

Henryd
Capel yr Annibynwyr, Henryd

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Henryd (pob oed) (715)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Henryd) (261)
  
37.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Henryd) (396)
  
55.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Henryd) (101)
  
32.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cludiant

golygu

Mae gwasanaeth bws afreolaidd yn cysylltu Henryd â Chonwy. Yr orsaf trenau agosaf yw'r honno a geir yn y dref honno.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.