Maerdref oedd yr enw Cymraeg Canol am brif 'dref' y cwmwd yn Oes y Tywysogion.

Maerdref
Daearyddiaeth

Roedd y faerdref yn eiddo'r tywysog neu arglwydd lleol ac yn gwasanaethu fel canolfan weinyddol y cwmwd. Yno yn y faerdref cynhelid y llys barn lleol. Roedd gan bob maerdref ei swyddogion dan awdurdod y brenin neu'r tywysog. Pan alwai llys cylchol y tywysog yn y cwmwd roedd disgwyl i'r swyddogion ofalu am letyo pawb a phorthi'r meirch. Byddai trysordy lleol mewn nifer o'r maerdrefi yn ogystal. Enghraifft dda ond eithriadol o faerdref yw Llys Rhosyr ym Môn.

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.