Cylchdaith llys Tywysogion Gwynedd

Fel nifer eraill o frenhinoedd a thywysogion yn yr Oesoedd Canol, arferai llys Tywysogion Gwynedd fynd ar gylchdaith gyda'r tywysog ei hun o gwmpas teyrnas Gwynedd o bryd i'w gilydd. Er fod gan y tywysogion llysoedd parhaol - yn Aberffraw ac Abergwyngregin (Garth Celyn) er enghraifft - yr oedd yn bwysig fod y tywysog yn ymweld â rhannau eraill o'r deyrnas er mwyn dangos ei awdurdod a gweinyddu'r wlad. Byddai swyddogion llys y tywysog a'u gweision yn teithio yn ei gwmni, ynghyd â gosgordd o filwyr. Darperid llety i'r tywysog a'i wŷr ym maerdref pob cwmwd neu gantref. Yn ddiweddarach daeth y mynachlogydd Sistersiaidd a'u tiroedd yn rhan o'r cylch hefyd.

Cylchdaith llys Tywysogion Gwynedd
Enghraifft o'r canlynolcylchdaith llys Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Cylchdaith llys 1273-77 golygu

Tenau iawn yw ein gwybodaeth am hanes y gylchdaith yn y cyfnodau cynnar. Ond cawn cipolwg ar ei symudiadau yn y cyfnod 1273-77 gan fod y cofnodau'n llawnach. Serch hynny eithriad braidd i'r drefn arferol oedd cylchdaith llys Gwynedd yn y cyfnod hwnnw oherwydd yr amgylchiadau gwleidyddol a milwrol (argyfwng 1274 a Rhyfel Annibyniaeth Cyntaf Cymru yn torri allan yn 1277). Mae'r dystiolaeth yn fylchog hefyd. Gwyddys i Lywelyn ap Gruffudd fod yn nghyffiniau Trefaldwyn gyda'i fyddin yng ngwanwyn 1276, gan ddefnyddio Castell Dolforwyn fel pencadlys efallai, ond does dim manylion am ei symudiadau.

Dyma'r gylchdaith:

Ffynhonnell golygu

  • David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984). Atodiad V.