Maes Awyr Rhyngwladol Faro
Maes awyr 4 cilomedr i’r gorllewin o dref Faro ym Mhortiwgal yw Maes Awyr Rhyngwladol Faro (Portugiwgaleg: Aeroporto Internacional de Faro) neu Maes Awyr yr Algarve. Agorwyd y maes awyr ym mis Gorffennaf 1965.[1]
![]() | |
Math |
maes awyr rhyngwladol, maes awyr, commercial traffic aerodrome ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Faro ![]() |
| |
Agoriad swyddogol |
1965 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Faro ![]() |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
24 Troedfedd ![]() |
Cyfesurynnau |
37.0144°N 7.9658°W ![]() |
Rheolir gan |
ANA – Aeroportos de Portugal ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth |
ANA – Aeroportos de Portugal ![]() |
Adeiladwyd prif adeilad newydd ym 1989, ac ehangwyd yr adeilad yn 2001. Gwellhawyd yr adeiladau a rhedfeydd rhwng 2009 a 2013.[2]
Mae bysiau cwmni Proximo (rhifau 14 a 16) yn mynd yn rheolaidd o’r maes awyr i orsaf reilffordd Faro a Gorsaf fwysiau Faro ar eu ffordd o Praia de Faro.[3][4]
Mae hyd y rhedfa’n 2,490 medr. Mae’r maes awyr yn prosesu dros 40,000 o ehediadau’n flynyddol, y mwyafrif rhwng Mawrth a Hydref.[3]
Perchennog y maes awyr yw O Estado Nacional de Portugal. Mae awdurdod cenedlaethol meysydd awyr Portiwgal, ANA Aeroportos de Portugal, yn weithredwyr y maes awyr.