Maes y Frenhines

sgwâr yn Aberystwyth

Lleolir Maes y Frenhines (Saesneg: Queen's Square) ar hyd ffordd Morfa Mawr yn Aberystwyth, Ceredigion.

Maes y Frenhines
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Canolfan Alun R. Edwards, lleoliad Llyfrgell Tref Aberystwyth

Mae'r 'sgwâr' yn gorwedd ar waelod Stryd Portland gan creu ystym yn Morfa Mawr lle ceir man ymgynnull saff ar gyfer digwyddiadau dinesig, er enghraifft, cychwyn gorymdaith urddo Maer newydd Cyngor Tref Aberystwyth. Adnabwyd y rhan yma o'r dref yn "gors" ar fapiau hyd at ganol y 19g.

Yn wynebu mynedfa'r llyfrgell yn linell syth ar hyd Stryd Portland a Stryd y Porth Bach am oddeutu 600m mae Eglwys Mihangel Sant Aberystwyth.

Nodweddion

golygu

Ceir dwy brif nodwedd i Faes y Frenhines sy'n rhoi naws arbennig ac urddasol i'r llecyn.

Canolfan Alun R. Edwards (llyfrgell y dref)

golygu
 
Plac Gwobr Civic Trust Canolfan Alun R Edwards Aberystwyth

Lleolir Llyfrgell Tref Aberystwyth ac adnoddau ar gyfer yr henoed o fewn y Ganolfan a enwyd ar ôl Alun R. Edwards, llyfrgellydd cyntaf Ceredigion a chymanaswr a dyn o weledigaeth yn yr adeilad neo glasurol yma.

Cyn bod yn lyfrgell y dref, dyma oedd canolfan neuadd Cyngor Tref Aberystwyth gan gynnwys siambr drafod a swyddfeydd clerigol. Sefydlwyd Cyngor y Dref yn 1835 gan ddisodli'r Gorfforaeth. Adeialdwyd adeilad wreiddiol Cyngor y Dref yn 1852 ar y Morfa Mawr,sef y safle bresenol, ond difethwyd yr adeilad wreiddiol yn 1957 mewn tân. Ail-adeiladwyd y pencadlys gyda dyluniad neo-glasurol a enillodd yr adeilad wobr bensaerniol yn 1962 am ei gymyseredd hardd. Wedi diddymu Cyngor Bwrdeisdref Aberystwyth yn yr 1970au bu'r swyddfeydd yn gweini ar ran Cyngor Dosbarth Ceredigion ac yna Cyngor Sir Ceredigion.

Cerddi Coffa

golygu
 
Maes y Frenines, Aberystwyth, tua'r dwyrain

Ceir gardd goffa fechan yn y llecyn glas ar ochr ddwyreiniol Maes y Frenhines.

Ceir yno goeden heddwch a hefyd choeden i nodi cymod a chyfeillfarwch rhwng Cymru a Siapan wedi'r Ail Ryfel Byd.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu