Alun R. Edwards

llyfrgellydd (1919-1986)

Llyfrgellydd oedd Alun R. Edwards (19191986).

Alun R. Edwards
Ganwyd1919 Edit this on Wikidata
Tregaron Edit this on Wikidata
Bu farw1986 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllyfrgellydd Edit this on Wikidata

Magwyd yn Llanio, ger Tregaron, Ceredigion a bu'n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru pan oedd yn ifanc.[1]

Fe'i apwyntiwyd yn llyfrgellydd yn gyntaf yn Ionawr 1950. Dros y chwarter canrif a rhagor nesaf, chwyldrôdd y gwasanaethau llyfgell Ceredigion ac yn wir y diwydiant llyfrau yng Nghymru gyfan. Ymhlith ei weledigaethau a gafodd eu gwireddu oedd ehangu gwasanaethau llyfrgelloedd teithiol, y coleg llyfrgellwyr yn Aberystwyth, cynllun pryniant y siroedd, Cyngor Llyfrau Cymru, sefydlu grwpiau darllen a thrafod a darparu llyfrgell tapiau caset.

Yn dilyn adrefnu llywodraeth leol fe'i penodwyd yn Llyfrgellydd Dyfed. Ymddeolodd yn 1980.

Cydnabyddiaeth golygu

 
Llyfrgell Tref Aberystwyth, Canolfan Alun R. Edwards
 
Plac Alun R Edwards llyfrgell Aberystwyth sefyll

Enwyd yr adeilad lle lleolir Llyfrgell Tref Aberystwyth ac Archifdy Ceredigion ar Maes y Frenhines, Morfa Mawr Aberystwyth yn 'Ganolfan Alun R. Edwards' er cof a pharch at waith breiniarol Alun.

Cyfeiriadau golygu