Magnús Magnússon

(Ailgyfeiriad o Magnus Magnusson)

Newyddiadurwr, hanesydd a chyflwynydd teledu oedd Magnús Magnússon (12 Hydref 1929 - 7 Ionawr 2007).

Magnús Magnússon
Ganwyd12 Hydref 1929 Edit this on Wikidata
Reykjavík Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ionawr 2007 Edit this on Wikidata
Swydd Dunbarton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd teledu, newyddiadurwr, ysgrifennwr, cyfieithydd, hanesydd Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd yr RSPB Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantSally Magnusson Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE, Medal Medlicott Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yn Reykjavik, Gwlad yr Iâ, ond symudodd ei deulu i fyw yn yr Alban pan oedd Magnússon yn dal yn blentyn. Aeth i'r ysgol yng Nghaeredin. Graddiodd yn Saesneg o Goleg yr Iesu, Rhydychen, a gweithiodd fel newyddiadurwr ar y Scottish Daily Express ac wedyn fel is-olygydd ar The Scotsman. Gweithiai ym myd darlledu o 1967 ymlaen a daeth yn enwog fel cyflwynydd hir-dymor y gyfres gwis eiconaidd Mastermind. Roedd yn awdur nifer o lyfrau gan arbenigo ar hanes a llenyddiaeth y Llychlynwyr.

Teledu golygu

  • Chronicle
  • Mastermind (1972-1997)
  • BC: The Archaeology of the Bible Lands
  • Vikings!
  • Birds for All Seasons

Llyfryddiaeth golygu

  • The Vikings