Makemake (planed gorrach)

Planed gorrach drydedd fwyaf Cysawd yr Haul a leolir yng Ngwregys Kuiper yw Makemake (enw catalog: (136472) Makemake, symbol: 🝼).[1] Mae ganddi ddiamedr o tua 1300–1900 km, sef tua tri chwarter diamedr Plwton. Does gan Makemake ddim lloerennau, hyd y gwyddys, sy'n ei gwneud yn unigryw ymhlith gwrthrychau mwyaf Gwregys Kuiper. Oherwydd ei thymheredd hynod o isel ar gyfartaledd (tua 30 K), gorchuddir ei wyneb â rhew methan, ethan a hefyd nitrogen efallai.

Makemake
Enghraifft o'r canlynolplaned gorrach, cubewano Edit this on Wikidata
Màs3.1 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod31 Mawrth 2005 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan(136471) 2005 FJ7 Edit this on Wikidata
Olynwyd gan136473 Bakosgáspár Edit this on Wikidata
LleoliadCysawd yr Haul Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.15802 Edit this on Wikidata
Radiws717 ±15 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun artist o'r blaned gorrach

Cafodd Makemake ei darganfod ar 31 Mawrth, 2005 gan dîm o seryddwyr dan arweiniad Michael Brown, a chyhoeddwyd y darganfyddiad ar 29 Gorffennaf yn yr un flwyddyn. Ar 11 Mehefin, 2008, cynhwysodd yr IAU Makemake ar ei restr o wrthrychau i'w hystyried am statws "plwtonaidd", term a ddefnyddir i ddisgrifio planedau corrach sy'n gorwedd y tu hwnt i gylchdro Neifion, a oedd yn cynnwys erbyn hynny Plwton ac Eris. Dosbarthwyd Makemake yn ffurfiol yn un o'r plwtoniaid yng Ngorffennaf 2008.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. JPL/NASA (2015-04-22). "What is a Dwarf Planet?". Jet Propulsion Laboratory. Cyrchwyd 2022-01-19.