Malwida von Meysenbug

Awdures o'r Almaen oedd Malwida von Meysenbug (28 Hydref 181623 Ebrill 1903) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur a hunangofiannydd. Hi oedd y fenyw gyntaf erioed i gael ei henwebu ar gyfer y Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth.[1]

Malwida von Meysenbug
Ganwyd28 Hydref 1816 Edit this on Wikidata
Kassel Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ebrill 1903, 26 Ebrill 1903 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethllenor, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMemoirs of an Idealist Edit this on Wikidata

Bywyd personol

golygu

Ganwyd Malwida Von Meysenbug yn Kassel, Hesse. Roedd ei thad, Carl Rivalier yn ddisgynnydd o deulu o Hiwgenotiaid o Ffrainc, a derbyniodd y teitl Barwn Meysenbug gan William I o Hesse-Kassel. Y nawfed o deg o blant, torrodd pob cysylltiad gyda'i theulu oherwydd ei daliadau gwleidyddol. Cafodd dau o'i brodyr yrfaoedd disglair - y naill fel gweinidog gwladol yn Awstria, a'r llall fel Gweinidog y Karlsruhe. Gwrthododd Von Meysenbug apelio i'w theulu fodd bynnag, gan ddewis byw yn y lle cyntaf ymhlith cymuned rydd yn Hamburg, ac yna trwy ymfudo i Loegr ym 1852 lle bu’n cynnal ei hun trwy ddysgu a chyfieithu gweithiau.

Roedd ei gwaith yn gynnwys Memories of an Idealist. Cyhoeddodd y gyfrol gyntaf yn ddienw yn 1869. Hefyd, roeddd yn ffrind i Friedrich Nietzsche a Richard Wagner, a chyfarfuâ'r awdur Ffrengig Romain Rolland yn Rhufain yn 1890. Yn 1901 von Meysenbug oedd y fenyw gyntaf erioed i gael ei henwebu ar gyfer y Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth ar ôl cael ei henwebu gan yr hanesydd Ffrengig Gabriel Monod.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Asaid, Alan. "Så ratade Akademien kvinnorna".
  2. Coustillas, Pierre ed. London and the Life of Literature in Late Victorian England: the Diary of George Gissing, Novelist. Brighton: Harvester Press, 1978, p.210.