Hiwgenotiaid
Roedd yr Hiwgenotiaid (Ffrangeg: Huguenots) yn aelodau o grefydd Ffrengig Protestannaidd oedd yn drwm o dan ddylanwad y diwynydd John Calvin a ddaeth yn boblogaidd yn yr 16g. Dyma oedd y term boblogaidd ar ddilynwyr Eglwys Ddiwygiedig Ffrainc.
Enghraifft o'r canlynol | Grŵp ethnogrefyddol |
---|---|
Math | Ffrancod |
Crefydd | Calfiniaeth |
Gwlad | Teyrnas Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd eu gwreiddiau yn athroniaeth Brotestanaidd Martin Luther ac yna Calvin. Ysytirir bod hyd at 10% (2 filiwn) o boblogaeth Ffrainc yn Hiwgonotiaid hyd at Cyflafan Sant Bartholomew yn 1572. Roeddynt yn trigo gan mwyaf yn rhannau deheuol a gorllewinol Ffrainc. Wrth i Hiwgenotiaid arddel eu dylanwad a ffydd yn fwy agored tyfodd atgasedd iddynt gan y Catholigion. Cafwyd cyfres o wrthdaro a rhyfeloedd crefyddol i'w dilyn, sef Rhyfeloedd Crefydd Ffrainc, o 1562 i 1598. Arweinwiyd yr Hiwgenotiaid gan Jeanne o Albret, ac yna ei mab, Harri o Nafar (Navarre), a ddaeth maes o law yn Frenin Harri IV o Ffrainc (newidiodd ei grefydd i Gatholigiaeth er mwyn dod yn Frenin). Daeth y rhyfeloedd i ben gyda Edict Nantes ym mis Ebrill 1598 gan Harri IV, brenin Ffrainc, pan roddwyd ymreolaeth i'r Hiwgenotiaid ym maes crefydd, gwleidyddiaeth, a milwrol.
Serch hynny, bu gwrthryfeliadau gan yr Huguenot yn yr 1620au yn ysgogi diddymu eu breintiau gwleidyddol a milwrol. Cadwyd eu hawliau crefyddol o dan Edict of Nantes hyd nes y teyrnasiad Louis XIV. Cynyddwyd yr erledigaeth ar Brotestaniaeth yn raddol nes iddo gyhoeddi y Edict Fontainebleau (1685), gan ddod i ben unrhyw gydnabyddiaeth gyfreithiol o Brotestaniaeth yn Ffrainc a gorfodi'r Hiwgenotiaid naill ai i droi'n Gatholigion neu ffoi. Honnodd Louis XIV i boblogaeth Hiwgonotiaid Ffrainc gwympo o dros 800,000 o unigolion i 1,000 neu 1,500 o unigolion; goramcangyfrif wrth reswm, ond bu cwymp enfawr o frawychus. Serch hynny, roedd lleiafrif bychan o Huguenots yn parhau ac yn wynebu erledigaeth barhaus o dan Louis VX. Erbyn marwolaeth Louis XV ym 1774, cafodd Calfiniaeth Ffrengig ei chwalu'n llwyr. Daeth yr erledigaeth ar Brotestaniaid i ben yn swyddogol gydag Edict Versailles, Llofnodwyd gan Louis XVI yn 1787. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gyda'r Datganiad o Hawliau Dyn a Dinesyddiaeth 1789, enillodd Protestaniaid Hawliau cyfartal i ddinasyddion.
Blwyddyn | Nifer yr Hiwgonotiaid yn Ffrainc |
---|---|
1519 | None[1] |
1560 | 1,800,000 |
1572 | 2,000,000 |
1600 | 1,200,000 |
1685 | 900,000 |
1700 | 100,000 neu lai |
2013 | 300,000[2] |
Symbol
golyguMae'r Groes Hiwgenotaidd (croix huguenote) yn fathodyn amlwg o'r grefydd.[3] Dyma bellach fathodyn swyddogol Église des Protestants réformés (Eglwys Brotestanaidd Ffrainc). Mae disgynyddion yr Hiwgenotiaid weithiau'n arddangos y bathodyn fel arwydd o gydnabyddiaeth.
Etymoleg
golyguNid oes sicrwydd i darddiad y term 'Hiwgonotiaid', er, i'r term yn wreiddiol fod yn un watwarus. Ceir sawl awgrym dros yr enw.
Gall fod yn lysenw sy'n cyfuno cyfeiriad at y gwleidyddydd o'r Swistir, Besançon Hugues (bu farw 1532) a hefyd natur grefyddol-wleidyddol gymleth y Swistir ar y pryd lle ceir gair mwys ar yr enw Hugues o gyfeiriad y gair Iseldireg Huisgenoten (yn llythrennol, 'cyd-letywyr'), sy'n cyfeiriad hefyd at y gair Almaene Eidgenosse (Conffederasiwnwyr) hynny yw, dinesydd un o daleithiau Conffederasiwn y Swistir.[4]
Cymru
golyguYmsefydlodd nifer o Hiwgenotiaid Ffrengig yng Nghymru, gan gynnwys yng Nghwm Rhymni. Mae'r gymuned a grëwyd yno yn dal i gael ei adnabod fel Fleur de Lys (symbol Ffrainc), enw pentref Ffrangeg anarferol yng nghanol cymoedd Cymru. Ar wahân i enw pentref Ffrengig a thîm rygbi lleol, Clwb Rygbi Fleur De Lys, bychan iawn yw ôl y dreftadaeth Ffrengig.
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Huldrych Zwingli began the Reformed tradition in Zürich, Switzerland in 1519 (see Reformation in Zürich and History of Calvinism). John Calvin converted to it either in the late 1520s or the early 1530s.
- ↑ Reformed Church of France membership at the time of its 2013 merger into the United Protestant Church of France.
- ↑ croix huguenote
- ↑ Encyclopædia Britannica, 11th ed, Frank Puaux, Huguenot