Mynydd yn yr Himalaya yn Nepal yw Manaslu (मनास्लु), weithiau hefyd Kutang. Manaslu yw'r seithfed mynydd yn y byd o ran uchder, 8,163 medr o uchder. Daw'r enw o'r Sansgrit, a gellir ei gyfieithu fel "Mynydd yr Enaid". Saif tua 40 milltir i'r dwyrain o Annapurna.

Manaslu
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolManaslu Conservation Area Edit this on Wikidata
SirGorkha District Edit this on Wikidata
GwladNepal Edit this on Wikidata
Uwch y môr8,163 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.55°N 84.5597°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd3,092 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddHimalaya Edit this on Wikidata
Map
Deunyddgwenithfaen Edit this on Wikidata

Dringwyd Manaslu gyntaf ar 9 Mai 1956 gan ddringwyr o Japan dan arweiniad Yuko Maki.

Y 14 copa dros 8,000 medr
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma