Dhaulagiri
Dhaulagiri yw'r seithfed copa yn y byd yn ôl uchder, a'r mynydd uchaf sydd yn gyfangwbl o fewn Nepal. Daw'r enw o'r Sanscrit "Dhavali giri", sy'n golygu "Mynydd Gwyn". Am tua 30 mlynedd wedi i'r mynydd ddod i sylw Ewropeaid yn 1808, ystyried mai Dhaulagiri oedd y mynydd uchaf yn y byd.
![]() | |
Math | mynydd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gandaki Province ![]() |
Gwlad | Nepal ![]() |
Uwch y môr | 8,167 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 28.6961°N 83.4953°E ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 3,357 metr ![]() |
Rhiant gopa | K2 ![]() |
Cadwyn fynydd | Himalaya, Dhaulagiri Himal ![]() |
![]() | |
Methodd saith ymgais i gyrraedd y copa rhwng 1950 a 1959, ond ar 13 Mai 1960 llwyddon tîm o Awstria a'r Swistir dan arweiniad Max Eiselin i roi nifer o ddringwyr ar y copa: Kurt Diemberger, Peter Diener, Nawang Dorje, Nima Dorje, Ernst Forrer ac Albin Schelbert. Dringwyd y mynydd yn y gaeaf am y tro cyntaf gan dîm o Japan yn 1982; y tro cyntaf i gopa dros 8,000 medr gael ei ddringo yn y gaeaf.
Y 14 copa dros 8,000 medr |
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II |
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma |