Mandy Rice-Davies

actores a aned yn 1944

Roedd Mandy Rice-Davies (21 Hydref 194418 Rhagfyr 2014)[1][2] yn enwog am ei rôl yn Helynt Profumo - affêr a oedd yn embaras mawr i Lywodraeth Geidwadol Harold Macmillan yn 1963.

Mandy Rice-Davies
Ganwyd21 Hydref 1944, 1 Hydref 1944 Edit this on Wikidata
Mere Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 2014 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, model, hunangofiannydd, perchennog bwyty Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni ym Mhont-iets cyn symud i Solihull yn Lloegr. Roedd ei thad yn heddwas a'i mam yn actores. Yn 15 oed dechreuodd fodelu mewn siop ddillad yn Birmingham. Roedd hi'n ffrind i'r model Christine Keeler. Yn achos llys Stephen Ward, cyfaddefodd iddi gael rhyw gyda'r dŷn busnes Emile Savundra.

Mae'r cyfenw 'Rice' yn Seisnigiad o 'Rhys' ac roedd Mandy'n perthyn yn agos i deulu neu etifeddion Yr Arglwydd Rhys.

Chwaraewyd rôl Mandy yn y ffilm Scandal (1989) gan Bridget Fonda.

Dolen allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "BBC News - Profumo affair's Mandy Rice-Davies dies at the age of 70". BBC News.
  2. "Profumo affair's Mandy Rice-Davies dies aged 70". Telegraph.co.uk. 19 Rhagfyr 2014.

Gweler hefyd

golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.