Mania

Mae Mania yn gyfnodau o ymddygiad cyffrous a gorfywiog

Mae Mania, a Hypomania yn gyfnodau o ymddygiad cyffrous a gorfywiog sy’n cael effaith sylweddol ar eich bywyd o ddydd i ddydd.

Mae Hypomania yn fersiwn ysgafnach o fania sy’n para am gyfnod byr (ychydig ddyddiau). Mae Mania yn ffurf fwy difrifol sy’n para am gyfnod hirach (yr wythnos neu fwy).

Gall mania newid y ffordd y mae pobl yn teimlo yn emosiynol ac yn gorfforol. Gall hefyd effeithio ar eu meddyliau a’u hymddygiad. Er bod pobl sy’n profi mania’n teimlo’n uchel i ddechrau, gallant wylltio pan nad yw eraill yn rhannu eu hagwedd optimistaidd. Gall mania arwain at bobl i wneud penderfyniadau gwael, i gael diffyg sgiliau canolbwyntio ac ymddwyn mewn ffyrdd sydd naill ai’n gywilyddus, yn niweidiol neu ambell waith yn beryglus. Pan nad yw’r teimladau mor eithafol, caiff ei ystyried fel hypomania.

Symptomau golygu

  • Teimladau o hapusrwydd eithafol
  • Llawn egni
  • Gwneud cynlluniau afrealistig
  • Anniddigrwydd ac ymosodedd uwch
  • Ymddygiad risg uchel, megis gwario llawer o arian
  • Siarad yn gyflym iawn
  • Anawsterau wrth ymlacio

Dolenni allanol golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Hypomania a Mania ar wefan  , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall