Manorhaus, Rhuthun
Adeilad rhestredig yn Rhuthun, Sir Ddinbych ydy'r Manorhaus (neu Rhif 10 a 12, Stryd y Ffynnon). Cafodd ei godi'n wreiddiol yn niwedd y 18g. Fe'i rhestrwyd gan Cadw ar y gofrestr adeiladau hynafol ar gyfeirnod 941.[1] Cafodd ei restru oherwydd ei nodweddion o ddiwedd Siorsaidd, gan eu bod o ddiddordeb pensaernïol arbennig. Credir fod peth carreg o Gastell Rhuthun wedi'i ddefnyddio ar ei gyfer, a gwaith pren Tuduraidd, felly fe all rhannau o'r adeilad fod yn hŷn na'r Oes Siorsaidd.
Manorhaus | |
---|---|
Rhif 10 a 12, Stryd y Ffynnon Rhuthun | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Statws | Cwblhawyd |
Lleoliad | Rhuthun, Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Dechrau adeiladu | Diwedd y 18fed ganrif |
Gwefan | |
Cadw | |
Ffynhonnell | |
Cadw 941 |
Cyn ei symud yn 1893, arferai fod yn ysgol breswyl ar gyfer Ysgol Rhuthun. Yna daeth yn gartref i feddyg lleol, cyn ei addasu'n dŷ bwyta gan Cynthia Lennon, gwraig cyntaf John Lennon, ac arferai eu mab fynychu'r ysgol fonedd.
Ceir ynddo 8 ystafell, pob un wedi'u haddurno'n gain, sawna, campfa a llyfrgell.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Listed Buildings; adalwyd 5 Mehefin 2014
- ↑ The Guardian