Manuel Rojas
Nofelydd, awdur straeon byrion, a bardd yn yr iaith Sbaeneg o Tsile a anwyd yn yr Ariannin oedd Manuel Rojas (8 Ionawr 1896 – 11 Mawrth 1973). Mae'n nodedig am ei ffuglen sy'n seiliedig ar brofiadau a chymeriadau'r isddosbarthiadau o'i ieuenctid.
Manuel Rojas | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1896 Buenos Aires |
Bu farw | 11 Mawrth 1973 Santiago de Chile |
Dinasyddiaeth | Tsile |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, nofelydd, awdur storiau byrion, bardd, llenor, undebwr llafur |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Atenea, Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth |
Ganwyd yn Buenos Aires, yr Ariannin, ac yn ei ieuenctid fe grwydrodd ar hyd y cyffindir rhwng yr Ariannin a Tsile tra'n llafurio am arian. Gweithiodd fel cysodwr leinoteip i bapurau newydd yn Santiago de Chile ac yn Llyfrgell Genedlaethol Tsile. Yn 1931, cafodd swydd yn bennaeth ar Wasg Prifysgol Tsile.[1]
Cychwynnodd ar ei yrfa lenyddol fel bardd, gyda'r gyfrol Poeticus (1921). Trodd ei sylw yn fuan at y stori fer, a gwelir dylanwad yr awduron Americanaidd Ernest Hemingway a William Faulkner yn ei gasgliadau Hombres del sur (1926) ac El delincuente (1929). Ymhlith ei gasgliadau diweddarach o straeon mae El vaso de leche y sus mejores cuentos (1959) ac El hombre de la rosa (1963). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Lanchas en la bahía, yn 1932, ac ystyrir y nofel hunangofiannol Hijo de ladrón (1951) yn gampwaith Rojas. Ymhlith ei nofelau eraill mae Mejor que el vino (1958), Punta de rieles (1960), a Sombras contra el muro (1964).
Bu farw yn Santiago yn 77 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Manuel Rojas. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mehefin 2019.