Marcus Vettius Bolanus
Cadfridog a gwleidydd Rhufeinig oedd Marcus Vettius Bolanus. Bu'n llywodraethwr Prydain rhwng 69 a 71 O.C..
Gwsanaethodd yn Asia dan Corbulo yn 62, a bu'n gonswl yn 66. Penodwyd ef yn llywodraethwr Prydain gan Vitellius, un o'r pedwar ymerawdwr yn ystod 69, Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, i gymeryd lle Marcus Trebellius Maximus, oedd wedi gorfod ffoi yn dilyn gwrthryfel gan Marcus Roscius Coelius, legad Legio XX Valeria Victrix. Daeth Bolanus a Legio XIV Gemina yn ôl i Brydain gydag ef; roedd y lleng yma wedi ei thynnu o Brydain yn 67.
Yn ystod cyfnod Bolanus fel llywodraethwr, gwrthryfelodd Venutius, arweinydd y Brigantes a chyn-ŵr Cartimandua. Roedd Cartimandua ei hun yn parhau i gefnogi'r Rhufeiniaid, a bu raid i Bolanus yrru milwyr i'w hachub rhag Venutius. fodd bynnag, bu raid iddo adael arweinyddiaeth y Brigantes i Venutius.
Dilynwyd ef fel llywodraethwr gan Quintus Petillius Cerialis.