Aulus Vitellius (7 neu 24 Medi 12 neu 15 OC20 Rhagfyr 69 OC) oedd wythfed Ymerawdwr Rhufain. Roedd y trydydd o bedwar ymerawdwr yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC).

Vitellius
Portread o Vitellius ar ddarn arian o gelc Llanfaches (Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru)
Ganwyd24 Medi 0015, 7 Medi 0015 Edit this on Wikidata
Nuceria Edit this on Wikidata
Bu farw22 Rhagfyr 0069 Edit this on Wikidata
o summary execution Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadLucius Vitellius the Elder Edit this on Wikidata
MamSextilia Edit this on Wikidata
PriodPetronia, Galeria Fundana Edit this on Wikidata
PlantVitellius Petronianus, Vitellia Galeria, Vitellius Germanicus Edit this on Wikidata

Perthynai Vitellius i deulu amlwg yn Rhufain, a daeth yn Gonswl yn 48 OC. Yn ystod teyrnasiad Nero penodwyd ef yn Broconswl talaith Affrica, Yn 68 OC penododd yr ymerawdwr Galba ef yn bennaeth y fyddin yn nhalaith Germania Inferior. Cynorthwyodd ei filwyr i orchfygu gwrthryfel gan Julius Vindex, ond yr oedd y milwyr yn teimlo nad oeddynt wedi cael y diolch dyledus gan Galba am wneud hyn. Ar 2 Ionawr 69 cyhoeddwyd Vitellius yn ymerawdwr gan ei lengoedd. Yn fuan wedyn cychwynodd y fyddin am Rufain.

Ym mrwydr gyntaf Bedriacum, gorchfygodd byddin Vitellius lengoedd Otho, oedd wedi disodli Galba fel ymerawdwr. Yn dilyn hunanladdiad Otho, aeth Vitellius ymlaen i Rufain fel ymerawdwr. Erbyn hyn yr oedd cystadleuydd arall am yr ymerodraeth. Roedd y llengoedd yn nhlaleithiau Judea a Syria wedi cyhoeddi Titus Flavius Vespasianus yn ymerawdwr, a chychwynodd llengoedd y dwyrain tua Rhufain i geisio ennill yr orsedd i Vespasian. Gorchfygwyd llengoedd Vitellius gan fyddin dan arweiniad Antonius Primus yn ail frwydr Bedriacum. Aeth byddin Primus ymlaen i Rufain, lle lladdwyd Vitellius. Daeth Vespasian yn ymerawdwr yn ei le.

Rhagflaenydd:
Otho
Ymerawdwr Rhufain
17 Ebrill20 Rhagfyr 69 OC
Olynydd:
Vespasian
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato