Mared Lewis
Awdures a dramodydd o Gymru yw Mared Lewis (ganwyd 1964) yn wreiddiol o Falltraeth, Ynys Môn ac ar hyn o bryd mae hi'n byw yn Llanddaniel Fab, Sir Fôn. Ei hoff awduron hi yw Geraint V. Jones a Jane Edwards.[1]
Mared Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 1964 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Graddiodd yn y Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna treuliodd gyfnod byr yn Nghaliffornia. Wedi gweithio fel athrawes Saesneg ac ym myd addysg a busnes, mae hi bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun. Mae hi wedi cyfrannu nifer o sgriptiau i gyfresi fel Pobol y Cwm a Rownd a Rownd ac i'r gyfres ddrama radio Rhydeglwys. Darlledwyd saith drama wreiddiol ganddi ar Radio Cymru.
Mae Mared wedi cyhoeddi nifer o nofelau i oedolion ac i bobl ifanc. Mae ei llyfrau hi yn cynnwys Fi a Mr Huws, Rhwng Dau Fyd ac Alffi.[2]. Cyrhaeddodd Maison du Soleil restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2009. Mae wedi ennill sawl coron a chadair mewn eisteddfodau lleol, a choron yr Eisteddfod Ryng-golegol.
Llyfryddiaeth
golygu- Esgid Wag (Dref Wen, 2004)
- Ffair Sborion (Dref Wen, 2007)
- Y Maison du Soleil (Gwasg Gwynedd, 2010)
- Min y Môr (Gwasg Gwynedd, 2012)
- Alffi, Cyfres Pen Dafad (Y Lolfa, 2012)
- Fi a Mr Huws (Y Lolfa, 2017)
- Llwybrau Cul, Cyfres Amdani (Gwasg Gomer, 2018)
- Rhwng Dau Fyd (Y Lolfa, 2015)
- Treheli (Y Lolfa, 2019)
- Gemau (Y Lolfa, 2020)
- Rob (Y Lolfa, 2021)
- Croesi Llinell (Y Lolfa, 2023)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mared Lewis. BBC. Adalwyd ar 12 Gorffennaf 2018.
- ↑ https://www.ylolfa.com/authors/719/mared-lewis[dolen farw]
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Mared Lewis ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |