Maredudd ap Tudur

person milwrol (1350-1406)

Aelod o deulu Tuduriaid Penmynydd o Ynys Môn oedd Maredudd ap Tudur (bu farw 1406); caiff ei gofio hefyd fel tad Owain Tudur.

Maredudd ap Tudur
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1406 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
TadTudur Fychan Edit this on Wikidata
MamMarged ferch Tomos Edit this on Wikidata
PriodMargaret Fychan Edit this on Wikidata
PlantOwain Tudur, Annes ap Tudor, Agnes ferch Maredudd ap Tudur Fychan ap Gronwy Edit this on Wikidata

Roedd Maredudd yn un o feibion Tudur Fychan (bu farw 1367). Rhannwyd tiroedd Tudur Fychan rhwng ei bedwar mab, ond nid oes sicrwydd pa diroedd etifeddodd Maredudd. Cofnodir iddo fod yn "ysiedwr" Môn cyn 1392, ac yn ysgwïer i Esgob Bangor yn 1404.

Fel ei frodyr, Rhys ap Tudur a Gwilym ap Tudur, roedd yn un o gefnogwyr gwrthryfel Owain Glyn Dŵr, er nad ymddengys iddo gymeryd rhan mor amlwg yn y gwrthryfel a'i ddau frawd. Collodd y teulu y rhan fwyaf o'u tiroedd o ganlyniad, ac aeth mab Maredudd i Lundain i geisio gwella ei sefyllfa, gan newid ei enw o Owain ap Maredudd i Owain Tudur neu Owen Tudor.

Llinach golygu

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Goronwy ap Tudur Hen
(Teulu Ednyfed Fychan)
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd Fychan II
m. cyn 1340
 
 
 
Elen ferch Tomos
 
Marged ferch Tomos
 
Tudur ap Goronwy
m. 1367
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Glyn Dŵr
c. 1354 - c. 1414
 
 
Maredudd
m.1406
 
Rhys
m. 1409
 
Gwilym
m. 1413
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Tudur