Owain Tudur
Milwr, gŵr llys, a phriod dirgel Catrin o Valois, gweddw Harri V, brenin Lloegr, oedd Owain Tudur (tua 1400 – 2 Chwefror 1461). Ef oedd tadcu Harri Tudur trwy ei fab Edmwnd Tudur. O'i bedwar mab arall y pwysicaf fu Siasbar Tudur, Iarll Penfro a Dug Bedford, a ymgyrchai'n galed i gael Harri Tudur ar orsedd Lloegr. Roedd Owain Tudur yn un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, canghellor Llywelyn Fawr. Roedd yn perthyn i Duduriad Môn trwy ei dad Maredudd ap Tudur, brawd Rhys ap Tudur a Goronwy ap Tudur a ymunasant ag Owain Glyn Dŵr yn ei wrthryfel yn erbyn y Saeson. Penmynydd ar Ynys Môn oedd ystâd y teulu.
Owain Tudur | |
---|---|
Ganwyd | c. 1400 Cymru |
Bu farw | 2 Chwefror 1461 Henffordd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | person milwrol |
Cysylltir gyda | Penmynydd |
Tad | Maredudd ap Tudur |
Mam | Margaret Fychan |
Priod | Catrin o Valois |
Plant | Edmwnd Tudur, Siasbar Tudur, merch Tudor, Owen Tudor, Margaret Tudor, David Owen |
Llinach | Tuduriaid |
Llinach
golyguGoronwy ap Tudur Hen (Teulu Ednyfed Fychan) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gruffudd Fychan II m. cyn 1340 | Elen ferch Tomos | Marged ferch Tomos | Tudur ap Goronwy m. 1367 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Glyn Dŵr c. 1354 - c. 1414 | Maredudd m.1406 | Rhys m. 1409 | Gwilym m. 1413 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Tudur | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ei ddiwedd
golyguDienyddiwyd ef yn Henffordd ar orchymyn Edward Iarll y Mers wedi i'r Lancastriaid golli'r dydd ym Mrwydr Mortimer's Cross yn 1461. Yn ôl un croniclydd, nid oedd yn credu y byddai Edward mor ansifil â'i ddienyddio tan y gwelodd y blocyn pren yn barod iddo.
- 'Yna dywedodd, "Y pen hwn a osodir ar y blocyn pren a orffwysai gynt yn arffed y frenhines Catrin", a chan gyflwyno ei feddwl a'i galon i Dduw, aeth yn llariaidd i'w dranc.'[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyfynnir yn David Fraser, Yr Amddiffynwyr (cyfieithiad Cymraeg gan Bedwyr Lewis Jones, Caerdydd, 1967), tud. 223.
Llyfryddiaeth
golyguLlyfrau hanes
golygu- W. Ambrose Bebb, Cyfnod y Tuduriaid (1939)
- H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915)
Ffuglen
golygu- William Pritchard, Owen Tudur (Caernarfon, 1913). Rhamant hanesyddol seiliedig ar draddodiadau lleol am Owain Tudur ar Ynys Môn.