Margaret Pritchard

actores

Gweithredwr busnes a cyn ddarlledwr ar radio a theledu yw Margaret Pritchard (ganwyd Ebrill 1951)[1], oedd yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith ar HTV Cymru. Fe'i magwyd ym Methesda, Gwynedd.

Margaret Pritchard
GanwydMargaret Pritchard Edit this on Wikidata
Ebrill 1951 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyhoeddwyr, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, prif weithredwr Edit this on Wikidata

Ymunodd Pritchard â HTV Cymru yn 1971 fel cyhoeddwr newyddion a chyflwynydd,[2] yn gweithio ar amrywiaeth o raglenni yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yn ddiweddarach daeth gyhoeddwr dilyniant ar y sgrîn[3] a canolbwyntiodd ar gyflwyno nifer o raglenni materion cymdeithasol ar gyfer yr orsaf. Bu hefyd yn cyflwyno rhai rhaglenni Cymraeg HTV i S4C, fel Teulu-Ffôn.

Gadawodd Pritchard HTV yn Rhagfyr 1992 pan daeth dilyniant ar y sgrîn i ben (gan newid i lais yn unig). Ym Mai 2000, daeth yn Brif Weithredwr elusen Gofal Hosbis George Thomas (City Hospice ers 2017) yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ac ymddeolodd o'r swydd yn Chwefror 2015.[4] Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol o Ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a'r Rhondda.

Bywyd personol golygu

Mae'n briod a Dr John Copley.[5]

Anrhydeddau golygu

Yn 2005 enillodd wobr y Western Mail am Cymraes y Flwyddyn yn y Gymuned.[6]. Yn 2016 derbyniodd MBE ar gyfer gwasanaethau i Ofal Lliniarol yng Nghaerdydd.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cofnod Tŷ'r Cwmniau
  2. Welsh Assembly Government press release
  3. ITV Wales announcers profiles
  4. Jessica Flynn. George Thomas Hospice Care's chief executive retires after nearly 15 years (en) , WalesOnline. Cyrchwyd ar 9 Awst 2016.
  5.  Radyr & Morganstown - Radur a Threforgan - Festival 2012. radyr.org.uk (2012). Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2018.
  6. Welsh Woman of the Year winners (en) , WalesOnline, 26 Tachwedd 2005. Cyrchwyd ar 9 Awst 2016.
  7.  The Gazette - Order of the British Empire (11 Mehefin 2016). Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2018.

Dolenni allanol golygu