Margaret Thomas
Emynydd oedd Margaret Thomas (hefyd Pegi Llwyd) a anwyd 1779 yn Nhalybont Uchaf, Llanllechid, Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw).[1]
Margaret Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 1779 Sir Gaernarfon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | emynydd |
Magwraeth a theulu
golyguGanwyd hi yn Margaret Lloyd i'w thad William Llwyd y Faenol, ger Bangor[2][3] Priododd Edmund Williams a ganed merch iddynt yn 1803. Yn 1817 priododd Pegi eilwaith, gydag Edward Thomas, Talybont Uchaf, ger Castell y Penrhyn. Ganwyd mab iddynt yn 1818 a bu farw yn 1863; Edward oedd ei enw yntau.
Roedd o deulu "athrylithgar" a llenyddol, a gwyddwn i nifer o weinidogion gael eu danfon ati er mwyn dysgu sut "i ddysgu arferion da ac ymddygiad gweddus".
Yr emynydd
golyguYsgrifennai ei hemynau ar ochr-dudalennau ei Beibl (gyhoeddwyd yn 1725) a llyfrau crefyddol eraill.[2][3] Ni chyhoeddwyd dim o'i hemynau yn ystod ei bywyd.[2] Y Parch. Thomas Levi a ddaeth ar draws ei gwaith gan eu cyhoeddi wedi ei marwolaeth yn y cylchgrawn Cymraeg ''Y Traethodydd a hynny yn 1904.[2][4] Hi ysgrifennodd yr emyn adnabyddus "Dyma Feibil annwyl Iesu", er nad yw hynny'n hollol sicr gan iddi ar adegau gopio emynau pobl eraill yn ei llyfrau.[2][3] Mae ei hemynau wedi cael eu disgrifio fel rhai "pwerus a gwahanol, gyda gogwydd benywaidd cryf iddynt."[2]
Dyma'r emyn enwocaf a ysgrifennodd:
- Dyma Feibl anwyl Iesu,
- Dyma rodd deheulaw Duw,
- Dengys hwn y ffordd i farw,
- Dengys hwn y ffordd i fyw;
- Dengys hwn y codwm erchyll
- Gafwyd draw yn Eden drist,
- Dengys hwn y ffordd i'r bywyd
- Trwy adnabod Iesu Grist.
Gweler hefyd
golygu- Ann Griffiths (1776 - Awst, 1805)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ welshjournals.llgc.org.uk;[dolen farw] adalwyd 24 Medi 2016.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Aaron, Jane (2010). Nineteenth-Century Women's Writing in Wales: Nation, Gender and Identity (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 21. ISBN 9780708322871.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Rees, Thomas Mardy (1908). Notable Welshmen (1700–1900) (yn Saesneg). Herald Office. t. 79.
- ↑ Levi, Thomas. "Margaret Thomas yr Emynyddes"[dolen farw] (PDF). Y Traethodydd 59 (1904) 338-43.