Y Traethodydd
cylchgrawn llenyddol a chrefyddol
Cylchgrawn Cymraeg chwarterol a gyhoeddir gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw Y Traethodydd.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn, cylchgrawn |
---|---|
Golygydd | Lewis Edwards, Roger Edwards, Daniel Rowlands, Ifor Williams, John Ellis Caerwyn Williams |
Cyhoeddwr | T. Gee a'i Fab |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1845 |
Lleoliad cyhoeddi | Dinbych |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Sylfaenydd | Thomas Gee |
Y Traethodydd yw'r cyfnodolyn hynaf sy'n parhau i gael ei gyhoeddi yn Gymraeg. Fe'i sefydlwyd yn 1845 gan Thomas Gee, gyda Lewis Edwards fel prif olygydd a'r Parch Roger Edwards fel cyd-olygydd. Dilynodd Lewis Edwards batrwm cyfnodolion Saesneg megis The Edinburgh Review a Blackwood's Magazine. Bu Syr Ifor Williams yn olygydd o 1939 hyd 1964. Y golygydd presennol yw D. Densil Morgan.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Y Traethodydd Archifwyd 2009-12-15 yn y Peiriant Wayback