Mari Lovgreen
actores
(Ailgyfeiriad o Mari Lövgreen)
Cyflwynwraig teledu ydy Mari Rhiannon Lovgreen (ganwyd 25 Awst, 1983[1], Caernarfon). Mae wedi cael ei disgrifio fel un o gyflwynwyr mwyaf naturiol teledu[2]. Y tro cyntaf iddi gyflwyno ar y teledu oedd ar Uned 5, S4C yn Tachwedd 2004 a bu yn y swydd honno tan 17 Gorffennaf 2009.
Mari Lovgreen | |
---|---|
Ganwyd | 1983 Caernarfon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu |
Ers hynny mae wedi cyflwyno Waaa!! a chymryd rhan yn Y Briodas Fawr. Mae Mari yn un o ohebwyr S4C yn Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol. Mae wedi cyflwyno rhaglenni dogfen Uned 5 o Wlad Tai, Melbourne a Periw. Ei thad yw'r canwr-cyfansoddwr Geraint Løvgreen[3]
Enillodd Mari wobr 'Newydd Ddyfodiad Gorau' yng ngwobrau BAFTA, S4C 2006[4].
Mari yw awdur llyfr Brên Babi (2017- Gwasg Gomer) a Llanast yn y Gyfres Lolipop (2015 - Gwasg Gomer)
Ffynonellau
golygu- ↑ Cyfweliad BBC Radio Cymru Adalwyd ar 18-05-2010
- ↑ Bywgraffiad byr ar ukgameshows.com
- ↑ Bywgraffiad Mari Lovgreen. Adalwyd ar 18-05-2010
- ↑ Datganiadau i'r Wasg, S4C