Uned 5
Rhaglen gylchgrawn hirhoedlog ar S4C oedd Uned 5. Dechreuodd y rhaglen mis Chwefror 1994 a denodd nifer fawr o wylwyr ifanc i'r sianel.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cyfres deledu ![]() |
Dechreuwyd | 17 Chwefror 1994 ![]() |
Daeth i ben | 30 Mai 2010 ![]() |
Genre | cyfres deledu i blant ![]() |
Cafodd y rhaglen ei ffilmio yn Stiwdio Barcud Derwen ar Stad Cibyn, Caernarfon. Roedd y stiwdio yn arfer bod ar ffurf "tŷ". Ond, wrth i'r gyfres ddechrau apelio at gynulleidfa ychydig yn hŷn, daeth y fformat tŷ i ben. Yn y blynyddoedd cyntaf, roedd trefn y gyfres yn debyg iawn i'r rhaglen Saesneg Blue Peter, ond yn fwy diweddar anelwyd y rhaglen yn fwy at gynulleidfa o bobl ifanc yn eu harddegau. Cwmmni Dime Goch, oedd yn rhan o gwmni teledu Antena oedd yn cynhyrchu'r rhaglen.
Roedd y rhaglen yn cynnwys golwg ar y cyfryngau a'r ffilmiau diweddaraf, edrych ymlaen at bêl-droed y penwythnos, sgwrs gyda gwestai arbennig, slot ffasiwn, bandiau'n chwarae'n fyw a nifer o eitemau eraill.
Daeth Uned 5 i ben ar ddydd Sul Mai 30, 2010.[1]
CyflwynwyrGolygu
|
|
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Datganiad Gwasanaethau Plant 13+, Newyddion Cynhyrchiad S4C, 24 Tachwedd 2009
Dolenni allanolGolygu
- Gwefan swyddogol Archifwyd 2017-06-23 yn y Peiriant Wayback.