Mari Siôn

llenor

Llenor o Ddyffryn Ceiriog yw Mari Siôn.[1]

Mari Siôn
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Treuliodd Mari ei phlentyndod yn Nyffryn Ceiriog a'i llencyndod yn ninas Bangor. Wedi graddio mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth y Trydydd Byd ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth ymlaen i dderbyn gradd meistr mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Wedi cyfnod yng Nghaerdydd yn gweithio i Blaid Cymru ac RNID Cymru, dychwelodd i Geredigion. Mae bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ble mae'n gweithio i Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant.

Yn 2004, enillodd Fedal Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn am ei chasgliad o gerddi, Dilyffethair. Ers hynny mae ei cherddi wedi eu cyhoeddi yn Tu Chwith, Golwg a Poetry Wales. Yn 2010 sefydlodd y blog be di gender yn Gymraeg? a'i nod o greu gofod i fenywod drafod pob agwedd o'u bywydau a hynny mewn cyd-destun ffeministaidd.

Cyhoeddwyd y gyfrol Cyfres Swigod: Ar Binnau gan Wasg Gomer yn 2011.

Cyfeiriadau golygu

  1. "www.gwales.com - 1848513844". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.



Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Mari Siôn ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.