Roedd Maria Caniglia (5 Mai 1905 - 16 Ebrill 1979) yn un o'r sopranos dramatig blaenllaw'r Eidal yn y 1930au a'r 1940au.[1]

Maria Caniglia
Ino Savini con Maria Caniglia - 'Cavalleria Rusticana' Caltagirone 16-10-1957.jpg
Ganwyd5 Mai 1905, 11 Mai 1906 Edit this on Wikidata
Napoli Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1979 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr, canwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata

CefndirGolygu

Ganwyd Caniglia yn Napoli yn ferch i Roberto Caniglia ac Erminia Simonelli, ei wraig. Astudiodd yng Nghonservatoire Cerdd Napoli fel disgbl i Agostino Roche.[2]

GyrfaGolygu

Gwnaeth Caniglia ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn Torino fel Chrysothemis yn Elektra ym 1930. Yn yr un flwyddyn canodd Magda yn opera Respighi La campana sommersa yn Genefa ac Elsa yn opera Wagner Lohengrin yn Rhufain cyn gwneud ei début yn La Scala ym Milan fel Maria yn Lo straniero gan Pizzetti. Roedd hi'n canu'n rheolaidd yn La Scala tan 1951 yn y prif rolau soprano dramatig mewn opera, fel Un ballo in maschera, La forza del destino, Aida, Andrea Chénier, Tosca ac Adriana Lecouvreur . Roedd hi'n arbennig o lwyddiannus mewn rolau o'r ysgol versimo hwyr.[3]

Ar y sin rhyngwladol, ymddangosodd Caniglia mewn lleoliadau fel y Palais Garnier, Covent Garden, a'r Teatro Colón. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn yr Opera Metropolitan yn Ninas Efrog Newydd ar 21 Tachwedd 1938 fel Desdemona yn Otello .

Cymerodd Caniglia ran yn adferiad ychydig o operâu anghofiedig fel Poliuto Donizetti ac Oberto Verdi. Bu hi hefyd yn perfformio nifer o weithiau cyfoes gan greu Manuela yn La notte di Zoraima gan Italo Montemezzi ym Milan, ym 1931, Rosanna yn Cyrano di Bergerac, gan Franco Alfano yn Rhufain, ym 1936, a rôl y teitl yn Lucrezia, gan Ottorino Respighi yn Rhufain ym 1937.[4]

Bu Caniglia yn gweithio’n rheolaidd gyda’r arweinwyr a’r cantorion mwyaf, ac wedi creu recordiadau o rai o’i rolau gwych, yn benodol Un ballo in maschera, ac Aida (o dan arweiniad Tullio Serafin), Andrea Chénier a Tosca (dan arweiniad Oliviero De Fabritiis), y cyfan gyferbyn â’r tenor. Beniamino Gigli; La forza del destino (o dan arweiniad Gino Marinuzzi), Don Carlo, Fedora a Francesca da Rimini gan Riccardo Zandonai, o dan arweiniad Antonio Guarnieri.

TeuluGolygu

Ym 1939 daeth Caniglia yn briod i'r cyfansoddwr Eidalaidd Pino Donati (1907–1975), a oedd hefyd yn gyfarwyddwr cerdd Arena Verona, y Teatro Comunale di Bologna, ac Opera Lyric Chicago.

MarwolaethGolygu

Bu farw yn Rhufain yn 73 mlwydd oed. Cyhoeddwyd Cofiant iddi yn 2007 Maria Caniglia: storia e cronaca gan Giorgio Feliciotti.[5]

CyfeiriadauGolygu

  1. Macy, Laura (gol); The Grove Book of Opera Singers, tud 73; Caniglia, Maria. Gwasg Prifysgol Rhydychen (2008). ISBN 9780195337655
  2. Naxos Records - Maria Caniglia adalwyd 17 Gorffennaf 2020
  3. Dizionario Biografico degli Italiani (Geiriadur Bywgraffiadol Eidalwyr - Cyfrol 34 1988) CANIGLIA, Maria adalwyd 17 Gorffennaf 2020
  4. All Music Maria Caniglia Biography by Erik Eriksson adalwyd 17 Gorffennaf 2020
  5. Feliciotti, Giorgio (2007); Maria Caniglia: storia e cronaca; Azzali (cyhoeddwyr) ISBN 9788888252353 adalwyd 17 Gorffennaf 2020