Maria Pride
Actores deledu o Gymru yw Maria Pride (ganwyd 1970) sydd yn chwarae'r cymeriad Debbie Jones yn opera sebon Pobol y Cwm.
Maria Pride | |
---|---|
Ganwyd | 1970 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor |
Mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Rhydfelen, ger Pontypridd.
Gyrfa
golyguYn Chwefror 1999, chwaraeodd y cymeriad Cindy, yr unig ran fenywaidd yn nrama gyntaf Patrick Jones, Everything Must Go, mewn cydweithrediad â The Manic Street Preachers, yn Theatr y Sherman, Caerdydd. Mae hefyd wedi chwarae Triste yn ail ddrama Jones, Unprotected Sex, hefyd yn Theatr y Sherman.[1]
Yn 2001, enillodd Maria wobr BAFTA Cymru am yr Actores Orau am ei rhan fel Pauline yn Care, y ddrama arobryn ysgrifennwyd gan Kieran Prendiville, cyn-gyflwynydd Tomorrow's World, am gamdriniaeth plant mewn cartref blant yng Nghymru. Cyfarwyddwyd Care gan Antonia Bird ac roedd yn serennu Steven Mackintosh. Yn 2002, serennodd Maria yn y ddrama Gymraeg, Gwyfyn.
Mae Pride wedi chwarae rhannau mewn nifer o ddramau teledu Cymreig, yn cynnwys High Hopes i BBC Cymru. Mae hefyd wedi chwarae rhannau bach mewn nifer o gyfres teledu Prydeinig tebyg i Casualty a Afterlife.
Fe enillodd Pride gystadleuaeth fersiwn enwogion o Mastermind Cymru.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Patrick (2001). Fuse : Patrick Jones, New and Selected Works. Parthian Books.
Dolenni allanol
golygu- Maria Pride ar wefan yr Internet Movie Database