Ysgol Garth Olwg

ysgol Gymraeg ym Mhentre'r Eglwys, Rhondda Cynon taf

Ysgol Gyfun Gymraeg yw Ysgol Garth Olwg (Enw gwreiddiol: Ysgol Gyfun Rhydfelen), sydd wedi ei lleoli ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd yn Rhondda Cynon Taf. Agorwyd yn 1962 a hi oedd y trydydd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghymru wedi iddi gael ei sefydlu yn 1962 o dan enw Ysgol Gyfun Rhydfelen.

Ysgol Gyfun Garth Olwg
Arwyddair Deuparth ffordd eu gwybod
Sefydlwyd 1962 - Ysgol Gyfun Rhydfelen
2006 - Ysgol Gyfun Garth Olwg
2019 - Ysgol Garth Olwg
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Trystan Edwards
Sylfaenydd Gwilym Humphreys
Lleoliad Y Brif Ffordd, Pentre'r Eglwys, Rhondda Cynon Taf, Cymru, CF38 1DX
AALl Rhondda Cynon Taf
Disgyblion 930+
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–19
Llysoedd 6
Lliwiau Du a gwyrdd
Cyhoeddiad Bytholwyrdd
Gwefan http://www.gartholwg.co.uk/

Roedd adeiladau'r ysgol mewn cyflwr gwael gan i ran o'r ysgol gael ei adeiladu ar frys fel lleoliad dros-dro i hyfforddi cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1917.[1]

Symudwyd yr ysgol o Rydyfelin i adeilad newydd ym Mhentre'r Eglwys ym mis Medi 2006 ar safle Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg. Bu dadl ynglŷn â'i hail-enwi i Ysgol Gyfun Gartholwg am fisoedd cyn penderfynu cadw'r enw newydd yn erbyn dymuniadau mwyafrif y disgyblion, athrawon a rhieni.[2][3]

Symudwyd yr ysgol o bentref Rhydyfelin i adeilad newydd ym Mhentre'r Eglwys ym mis Medi 2006 ar Gampws Cymunedol Gartholwg. Mae'r dadlau yn parhau ynglŷn â'i hail-enwi'n 'Ysgol Gyfun Garth Olwg' ac er yn groes i ddymuniadau mwyafrif y rhieni, disgyblion ac athrawon, penderfynwyd newid yr enw o Ysgol Gyfun Rhydfelen.[4][5]

Roedd yr hen adeilad mewn cyflwr gwael pan ddymchwelwyd ef, adeiladwyd rhan o'r ysgol ar frys fel lleoliad dros-dro i hyfforddi cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1917.[6]

Cyn-ddisgyblion o nôd

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu