Marie Dähnhardt
Ffeminist o'r Almaen oedd Marie Dähnhardt (ganwyd 1818) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel swffragét.
Marie Dähnhardt | |
---|---|
Ganwyd | 1818 Gadebusch |
Bu farw | 1902 Llundain |
Man preswyl | Llundain, Awstralia |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor |
Priod | Max Stirner |
Fe'i ganed yn Gadebusch, yr Almaen (Mecklenburg-Western Pomerania erbyn heddiw) yn 1818, yn ferch i apothecari. Bu farw yn Llundain. Am gyfnod, cysylltwyd hi gyda Chlwb Dadlau Berlin (Die Freien) ac yno y cyfarfu a'r athronydd Max Stirner; bu'r ddau yn briod rhwng 1843 a 1846, ail-briodas Stirner. Yn niwedd 1844, blwyddyn wedi priodi, cyhoeddodd Stirner ei fagnum opus, sef Der Einzige und Sein Eigentum (Yr Unigolyn ac ef ei Hun) a gyhoeddwyd gan Otto Wigand; rhannwyd y llyfr yn sydyn i'r siopau, cyn ei fod yn cael ei sensro. Nodwyd y dyddiad 1845 ar y llyfrau.[1]
Buddsoddodd Stirner gwaddol ei wraig mewn cwmniau, ac aeth yr hwch drwy'r siop. Ar ôl ysgaru Max Stirner, symudodd Dähnhardt i Lundain, ac yn 1852 i Awstralia.
Ar ôl dychwelyd i Loegr, ymunodd â chymuned Gatholig, lle cyfarfu a John Henry, bywgraffydd Stirner, ond gwrthododd siarad am ei chyn-ŵr a dywedodd Henry, "roedd Stirner yn ddyn annwyl iawn; nid oedd Dähnhardt wedi'i garu o gwbwl. Roedd perthynas y ddau yn fwy o gyd-fyw na phriodas".
Darllen pellach
golygu- Rhifyn arbennig: "Meinem Liebchen Marie Dähnhardt" o Der Einzige. Vierteljahresschrift des Max-Stirner-Archivs Leipzig, nr. 33/34 (Chwefror/Mai 2006).
Anrhydeddau
golygu