Athronydd o Almaenwr oedd Max Stirner (Johann Kaspar Schmidt; 25 Hydref 180626 Mehefin 1856) sy'n nodedig am ei syniadaeth wrth-wladolaidd a gafodd ddylanwad pwysig ar anarchiaeth yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g a hefyd ar ddirfodaeth. Ei brif waith ydy'r llyfr Der Einzige und sein Eigentum (1844).

Max Stirner
FfugenwMax Stirner Edit this on Wikidata
GanwydJohann Caspar Schmidt Edit this on Wikidata
25 Hydref 1806 Edit this on Wikidata
Bayreuth Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mehefin 1856, 25 Mehefin 1856 Edit this on Wikidata
o Brathau a phigiadau pryfed Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Bafaria Edit this on Wikidata
Addysgathro prifysgol mewn athroniaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, newyddiadurwr, cyfieithydd, ysgrifennwr, addysgwr, athro prifysgol mewn athroniaeth Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Ego and Its Own Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGeorg Hegel, Ludwig Feuerbach, Bruno Bauer, Adam Smith, Jean-Baptiste Say Edit this on Wikidata
MudiadEthical egoism, egoist anarchism, Unigolyddiaeth, solipsism, Young Hegelians Edit this on Wikidata
PriodMarie Dähnhardt Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Johann Kaspar Schmidt yn Bayreuth, Bafaria, ar 25 Hydref 1806. Astudiodd ddiwinyddiaeth, ieitheg, ac athroniaeth ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, ac yno mynychodd ddarlithoedd Georg Wilhelm Friedrich Hegel a gafodd ddylanwad mawr arno. Symudodd yn ddiweddarach i Brifysgol Erlangen.

Dychwelodd i Ferlin a gweithiodd yn athro mewn ysgol baratoi i ferched. Bu'n briod ddwywaith: i Agnes Burtz, o 1837 nes ei marwolaeth yn 1838, ac i Marie Dähnhardt o 1843 nes ysgariad yn 1846. Defnyddiodd gyfoeth ei ail wraig i ymddiswyddo a throi ei sylw at roi ei athroniaeth dan glawr. Yn y cyfnod hwn cyflawnodd ei gampwaith, Der Einzige und sein Eigentum, a gyhoeddwyd yn 1844 dan y ffugenw Max Stirner. Defnyddiodd arian ei wraig hefyd i hapfuddsoddi yn y diwydiant llaeth, ac o ganlyniad fe'i carcharwyd am fethu talu ei ddyledion. Dyma'r ymddygiad a berodd i Marie gael ysgariad oddi wrtho.

Wedi hynny, enillodd ei damaid yn gyfieithydd, ac efe wnaeth drosi The Wealth of Nations gan Adam Smith i'r Almaeneg. Cyfranodd erthyglau at y cyfnodolyn rhyddfrydol Rheinische Zeitung.[1] Bu farw ym Merlin ar 26 Mehefin 1856 yn 49 oed, wedi iddo gael ei frathu gan bryf gwenwynig.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Max Stirner. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Medi 2019.