Nofelydd o Loegr, sy'n dod o dras Wcráin yw Marina Lewycka (ganwyd 1946). Bu'n ddarlithydd mewn astudiaethau cyfryngau ym Mhrifysgol Sheffield Hallam nes iddi ymddeol ym Mawrth 2012.[1][2]

Marina Lewycka
Ganwyd12 Hydref 1946 Edit this on Wikidata
Kiel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Prifysgol Efrog
  • Prifysgol Keele
  • Coleg y Brenin
  • Queen Elizabeth's High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, nofelydd, athro Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Sheffield Hallam University Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Bollinger Everyman Wodehouse Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://marinalewycka.com/ Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Kiel yn Schleswig-Holstein sef y dalaith mwyaf gogleddol o 16 talaith yr Almaen. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Efrog, Prifysgol Keele a Choleg y Brenin, Llundain.[3][4][5][6]

Magwraeth

golygu

Ganwyd Lewycka mewn gwersyll ffoaduriaid yn Kiel ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Wedi hynny symudodd ei theulu i Loegr; mae hi bellach yn byw yn Sheffield, De Swydd Efrog. Mynychodd Ysgol Uwchradd Gainsborough i Ferched yn Gainsborough, Swydd Lincoln, yna Witney Grammar School yn Witney, Swydd Rydychen. Graddiodd o Brifysgol Keele ym 1968 gyda BA mewn Saesneg ac athroniaeth, ac o Brifysgol Efrog gyda BPhil mewn Llenyddiaeth Saesneg ym 1969. Dechreuodd, ond ni chwblhaodd, PhD yng Ngholeg y Brenin, Llundain. [7][8]

Yr awdures

golygu

Enillodd nofel gyntaf Lewycka, A Short History of Tractors in Ukrainian Wobr Bollinger Everyman Wodehouse (2005) am ysgrifennu comig yng ngŵyl lenyddol y Gelli, Gwobr Darllen Da Waverton 2005/6, a Gwobr Saga 2005 am Ddoniolwch; fe'i rhestrwyd ar gyfer Gwobr Man Booker 2005 ac ar restr fer Gwobr Ffuglen Orange, 2005. Erbyn 2019 roedd y nofel wedi ei chyfieithu i 35 o ieithoedd.[1][9][10][11][12]

Cyhoeddwyd ei hail nofel Two Caravans mewn clawr caled ym Mawrth 2007 gan Fig Tree (argraffiad o Penguin Books) ar gyfer marchnad y Deyrnas Unedig, ac fe'i rhoddwyd ar restr fer Gwobr Orwell 2008 am ysgrifennu gwleidyddol. Yn Unol Daleithiau America a Chanada fe'i cyhoeddir o dan y teitl Strawberry Fields.[13]

Yn ogystal â'i ffuglen, mae Lewycka wedi ysgrifennu nifer o lyfrau sy'n rhoi cyngor ymarferol i ofalwyr pobl oedrannus, gwaith a gyhoeddwyd gan yr elusen Age Concern.

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Bollinger Everyman Wodehouse (2005) .

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Marina Lewycka". British Council Literature. British Council.
  2. "Best-selling book would not exist without master's course". Sheffield Hallam University. 14 Mawrth 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-25. Cyrchwyd 2019-07-03.
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb15552268d. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb15552268d. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Gorffennaf 2024.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
  6. Companies House
  7. Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/144882. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 144882. https://cs.isabart.org/person/144882. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 144882.
  8. "From Tractors to Caravans". Grapevine (Prifysgol Efrog) (Hydref 2007): 17.
  9. "Debut novelist takes comic prize". BBC. 6 Mehefin 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 26 Hydref 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. Man Booker Prize 2005 Archifwyd 12 Mai 2008 yn y Peiriant Wayback
  11. Guardian Archifwyd 26 Mehefin 2007 yn y Peiriant Wayback
  12. Translations of A Short History of Tractors in Ukrainian [dolen farw]
  13. The Orwell Prize Shortlist 2008 Archifwyd 7 Mawrth 2009 yn y Peiriant Wayback