Mark Aizlewood
Rheolwr a chyn-chwaraewr pêl-droed proffesiynol a rhyngwladol dros Gymru yw Mark Aizlewood (Ganwyd 1 Hydref 1959 yng Nghasnewydd).
Manylion Personol | ||
---|---|---|
Enw llawn | Mark Aizlewood | |
Dyddiad geni | 1 Hydref 1959 | |
Man geni | Casnewydd, Cymru | |
Taldra | 1m 83 | |
Clybiau | ||
Blwyddyn |
Clwb |
Ymdd.* (Goliau) |
1975–1978 1978–1982 1982–1987 1987–1989 1989–1990 1990–1994 1994–1995 1995-1995 1996-1997 1997-2000 |
Sir Gasnewydd Luton Town Charlton Athletic Leeds United Bradford City Bristol City Dinas Caerdydd Merthyr Tudful Tref Aberystwyth Tref Cwmbrân |
38 (3) 98 (3) 152 (9) 70 (3) 39 (1) 101 (3) 39 (3) ? (?) 30 (1) 69 (0) |
Tîm Cenedlaethol | ||
1986–1994 | Cymru | 39 (0) |
1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn |
Tra'n chwarae dros Leeds United, fe oedd capten y clwb rhwng 1987 a 1989. Chwaraeodd hefyd i Sir Gasnewydd, Luton Town, Charlton Athletic, Bradford City, Bristol City, Dinas Caerdydd a Merthyr Tudful. Enillodd 39 o gapiau dros Cymru rhwng 1986 at 1994.
Cyn ymuno â Leeds roedd e hefyd yn gapten a’r Charlton Athletic ac fe enillodd dlws chwaraewr y flwyddyn am ddwy flwyddyn yn olynol.
Roedd e’n is-reolwr ar Ddinas Caer yn nhymor 2004-05 o dan reolaeth Ian Rush. Mae e hefyd yn mynychu nifer fawr o weithgareddau hyfforddi yn ne Cymru. Roedd ei frawd hynaf Steve hefyd yn chwaraewr proffesiynol gyda Sir Gasnewydd a Portsmouth.
Achos o dwyll
golyguYn Mehefin 2016 cyhuddwyd Aizlewood yn dilyn ymchwiliad gan y Swyddfa Dwyll Difrifol.[1] Ymddangosodd yn Llys y Goron Southwark yn Nhachwedd 2017.[2] Yn Ionawr 2018 fe'i cafwyd yn euog o un achos o dwyll, ar ôl cymryd £5m ar gyfer cynllun prentisiaeth ffug. Cafwyd yn euog ynghyd â Paul Sugrue a pedwar cyfarwyddwr arall. Disgrifiodd yr achos fel un "difrifol iawn" gan y Barnwr Michael Tomlinson ac fe ohiriwyd y dedfrydu tan 26 Chwefror, gan ryddhau y dynion ar fechnïaeth [3]
Ar 26 Chwefror 2018, fe'i ddedfrydwyd i 6 blynedd o garchar.[4]
Llyfryddiaeth
golygu- Amddiffyn Fy Hun (Gwasg Gomer, 2009).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Former Wales and County player appears in court over fraud allegations". South Wales Argus. 6 June 2016. Cyrchwyd 6 June 2016.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-01. Cyrchwyd 2018-02-26.
- ↑ Dau gyn-beldroediwr o Gymru yn euog o dwyll , Golwg360, 5 Chwefror 2018. Cyrchwyd ar 26 Chwefror 2018.
- ↑ Chwe blynedd o garchar i Mark Aizlewood am dwyll £5m , BBC Cymru Fyw, 26 Chwefror 2018.