Markermeer
Llyn yn yr Iseldiroedd yw'r Markermeer, hefyd Zuidelijk IJsselmeer. Gydag arwynebedd o 700 km2, ef yw ail lyn yr Iseldiroedd o ran maint, ar ôl yr IJsselmeer. Saif rhwng talethiau Noord-Holland a Flevoland, gyda'r IJsselmeer i'r gogledd-ddwyrain iddo. Mae'r Houtribdijk yn gwahanu'r ddau lyn.
Math | llyn |
---|---|
Enwyd ar ôl | Marken |
Cysylltir gyda | IJsselmeer, IJmeer |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Nieuw Land National Park |
Rhan o'r canlynol | IJsselmeergebied |
Sir | Yr Iseldiroedd |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Arwynebedd | 700 km² |
Uwch y môr | −4 metr |
Cyfesurynnau | 52.57°N 5.22°E |
Yn wreiddiol, roedd yn rhan o'r Zuiderzee, hyd nes i'r argae cyntaf, yr Afsluitdijk. gael ei adeiladu yn 1932 i greu'r IJsselmeer. Adeiladwyd yr Houtribdijk yn 1976, i gysylltu dinasoedd Lelystad ac Enkhuizen a chreu'r Markermeer.
Y cynllun gwreiddiol oedd sychu'r Markermeer i greu polder, ond oherwydd protestiadau ar sail ecoleg a rhai problemau technegol, rhoddwyd y gorau i'r cynllun.