Mary Oliver Jones
Awdures Seisnig o dras Gymreig a ysgrifennai yn y Gymraeg oedd Mary Oliver Jones (14 Chwefror 1858[1] – 30 Mehefin 1893).[2]
Mary Oliver Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1858 Lerpwl |
Bu farw | 1893 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | awdur |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganwyd yn Lerpwl yn ferch i weinidog Methodistaidd, a bu fyw yno drwy gydol ei bywyd byr lle fu'n chwarae rhan bwysig yng nghymuned Gymraeg y ddinas.
Bu'n un o nifer o awduron benywaidd i gael ei sbarduno i ysgrifennu gan Cranogwen ar gyfer ei chylchgrawn hi, Y Frythones. Dywedir mewn dogfen ar womensarchivewales.org, 'Daeth llawer o awduron mwyaf llwyddiannus y cylchgrawn i fri trwy’r cystadlaethau hyn: y nofelydd Mary Oliver Jones, er enghraifft, a enillodd y gystadleuaeth gyntaf am stori gyfres.[3] Enillodd ei nofel gyntaf, Claudia, wobr yn y cylchgrawn; dilynnodd nifer o nofelau eraill yn y Frythones a chylgronau eraill.
Nofelau (Detholiad)
golygu- Claudia (1880)
- Y Fun o Eithinfynydd (1891)[4]
- Nest Merfyn (1892-3; ail-gyhoeddwyd 2024)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas Mardy Rees (1908). Notable Welshmen (1700-1900) (yn Saesneg). Herald Office. t. 429.
- ↑ "Mary Oliver Jones, 'Y Gwilyedydd', 23 Awst 1893. t.1".
- ↑ www.womensarchivewales.org; adalwyd 4 Ionawr 2024.
- ↑ y llyfr ar amazon.co.uk.