Sarah Jane Rees (Cranogwen)
Llenor o Gymru oedd Sarah Jane Rees, a adnabyddwyd fel Cranogwen (9 Ionawr 1839 – 27 Mehefin 1916). Gweithiodd fel morwr ac athrawes cyn dod yn enwog fel bardd yn yr 1860au, ond hwyrach mai ei phrif gyfraniad i fywyd cyhoeddus ei gwlad oedd ei gyrfa hir fel darlithydd cyhoeddus a phregethwr, fel golygydd Y Frythones rhwng 1878 ac 1889, ac am ei rôl blaenllaw yn hyrwyddo dirwest.[1] Roedd yn eithriadol adnabyddus yn y byd Cymraeg yn ystod ei bywyd, ac mae wedi'i disgrifio fel "Cymraes enwocaf ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg"[2] ac yn "arloeswraig ffeminyddol".[3]
Sarah Jane Rees | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Cranogwen ![]() |
Ganwyd | 9 Ionawr 1839 ![]() Llangrannog ![]() |
Bu farw | 27 Mehefin 1916 ![]() Cilfynydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, llenor, golygydd ![]() |
Bywgraffiad
golyguBywyd Cynnar (1839-60)
golyguGanwyd Sarah Jane Rees (a enwyd ar ôl ei mamgu) ym mis Ionawr 1839 ar fferm Dolgoy Fach ym mhlwyf Llangrannog. Roedd ei chefndir yn un tlawd, dosbarth gweithiol; morwr oedd ei thad fel llawer o wŷr y pentref. Yn ddisgybl galluog iawn, addysgwyd y Cranogwen ifanc gan ŵr o'r enw Huw Dafis. Er mai mewn tai annedd ac ysguborion y cynhaliwyd yr ysgol hon, fel addysgwr roedd Dafis yn ŵr o flaen ei oes mewn llawer ffordd: byddai'n siarad â'i ddosbarth yn Gymraeg ac mae ysgrif hunangofiannol Cranogwen yn tystio i'w boblogrwydd gyda'i ddisgyblion.[4]
Mae Jane Aaron yn awgrymu bod arwyddocad yn y ffaith mai yn Llangrannog y magwyd Cranogwen. Roedd y mwyafrif o wŷr y pentref yn forwyr ac felly oddi cartref am gyfran sylweddol o'r flwyddyn; merched felly fyddai'n cynnal y pentref a'i gymdeithas, gan gynnwys capel lleol y Methodistiaid Calfinaidd y perthynai Cranogwen a'i theulu iddo.[5]
Ychydig iawn oedd y cyfleoedd i ferched ennill eu bywoliaeth yn annibynnol yn y cyfnod hwnnw. Wedi cyfnod byr yn astudio gwnïo yn Aberteifi, cytunodd ei thad y cai fynd gydag ef i weithio ar y môr, a hithau ond yn bymtheg oed ar y pryd. Bu'n gweithio fel morwr ar longau masnach y glannau am tua dwy flynedd, cyn dychwelyd i fyd addysg. Astudiodd mewn amryw fannau cyn derbyn Tystysgrif Meistr mewn mordwyo o Lundain.[6] Mewn egwyddor roedd hyn yn ei chymhwyso i ddod yn gapten llong ei hun; fodd bynnag ni ddychwelodd i'r môr ar ôl 1859 a'i phrif gymhelliant wrth gwblhau ei hastudiaethau oedd cymhwyso i allu paratoi eraill ar gyfer eu Master Mariner's Certificate, cymhwyster hanfodol ar gyfer pob un yr oedd arno eisiau dod yn gapten llong.[7]
Ysgolfeistres a Bardd (1859-68)
golyguYn 1859, dychwelodd i fro ei magwraeth i ymgymryd â swydd fel ysgolfeistres yn ysgol bentref Pontgarreg, sef hen swydd Huw Dafis. Roedd ei disgyblion yn cynnwys plant ifanc ond hefyd dynion mewn oed oedd yn astudio ar gyfer y Master Mariner's Certificate. Er bod rhai wedi beirniadu'r penderfyniad i roi'r swydd i ferch, yn enwedig merch mor ifanc (roedd hi'n 21 mlwydd oed ar y pryd), buan yr enillodd barch am ei gallu i gadw disgyblaeth, a'r hyfforddiant a roddai mewn mordwyo i fechgyn ifanc yr ardal oedd a'u bryd ar fynd yn llongwyr.[8]
Dechreuodd barddoni yn ystod yr 1860au cynnar, gan enill nifer o lwyddiannau eisteddfodol, peth a berai syndod yn aml mewn rhai sylwebwyr a awgrymai na allai merch fod wedi cyfansoddi'r fath gerddi, a bod yn rhaid bod dyn wedi'i chynorthwyo.[9] Fel bardd daeth Cranogwen i sylw Cymru gyfan am y tro cyntaf, a hynny wrth ennill gwobr am ei cherdd Y Fodrwy Briodasol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1865, a hynny gan guro Ceiriog ac Islwyn, rhai o feirdd Cymraeg enwocaf y cyfnod. Hon efallai yw cerdd unigol enwocaf Cranogwen ac mae'n cynnwys "elfen gref o brotest ffeminyddol", gyda'r gerdd wedi'i ffurfio o bedwar 'darlun', pob un yn disgrifio merched yn ystyried agweddau a goblygiadau cyfnodau gwahanol eu priodasau, a lleisiau'r priodfeibion yn gyfangwbl absennol.[10]
Cyhoeddwyd y gerdd yn 1968 yn y gyfrol Caniadau Cranogwen, a gafodd dderbyniad gwresog.[11] Hon oedd yr unig gyfrol o farddoniaeth Cranogwen i gael ei chyhoeddi yn ystod ei bywyd ac mae'r mwyafrif o'r cerddi o'i heiddo sydd wedi goroesi'n perthyn felly i'r cyfnod cynnar hwn yn ei gyrfa cyhoeddus; fodd bynnag daliodd i ysgrifennu barddoniaeth yn achlysurol ar ôl 1868, gan gyhoeddi ei cherddi a'i chaneuon mewn amrywiol cylchgronnau.
Darlithydd Cyhoeddus (1865-1879)
golyguYn sgil ei proffil newydd, dechreuodd ddarlithio o amgylch Cymru ar nifer o destunau gwahanol, gan roi ei darlithoedd cyhoeddus cyntaf yn 1865,[12] a rhoi'r gorau i'r ysgol er mwyn darlitho llawn amser yn 1866.[13] Er gwaethaf rhai ymatebion negyddol i siaradwraig cyhoeddus, o'r cychwyn cyntaf un, roedd darlithoedd Cranogwen yn eithriadol o boblogaidd, a llenwyd capeli hyd a lled y wlad â channoedd o wrandawyr. Ni chafodd yr un o'i darlithoedd ei chyhoeddi ac nid oes un wedi goroesi ar ffurf ysgrifenedig, fodd bynnag roedd y teitlau'n cynnwys Anhepgorion Cymeriad Da; Y Ieuengctyd a Diwylliant eu Meddyliau; Ann Griffiths a'i Hemynau; a Cymru - Ei Haddysg a'i Chrefydd. Tystia'r adroddiadau papur newydd amdanynt iddynt gael agraff ar eu gwrandawyr: i nifer sylweddol ohonynt dyma fyddai'r tro cyntaf iddynt glywed merch yn llefaru ar lwyfan.[14]
Darlithodd hefyd i gymunedau Cymraeg Lloegr yn ninasoedd fel Lerpwl a Manceinion, ac yn 1869 derbyniodd wahoddiad i ddarlithio yn yr Unol Daleithiau. Bu yn yr UDA am dros flwyddyn, gan deithio hyd a lled y wlad, ar ei phen ei hun yn aml iawn. Wedi iddi dychwelyd bu'n darlithio ar destunau megis Tu hwnt i'r Mynyddoedd Creigiog (disgrifiad o'i thaith yn ardal y Rockies).
Y Frythones (1879-1889)
golyguYn 1879 sefydlwyd cylchgrawn Y Frythones gan David J. Williams, cyhoeddwr Y Cylchgrawn sef cyfnodolyn y Methodistiaid Calfinaidd. Gwahoddwyd Cranogwen i fod yn olygydd arni; disgrifiodd hithau mai swyddogaeth y cyfnodolyn oedd 'ymddangos mewn bwlch ar y mur a fu drwy y blynyddoedd yn cael ei esgeuluso',[15] gan mai hwn oedd y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ferched ers i gylchgrawn Y Gymraes, dan olygyddiaeth Ieuan Gwynedd ddod i ben yn 1852. Yn wahanol i'r Gymraes, merched oedd y mwyafrif helaeth o gyfranwyr Y Frythones, ac roedd hi'n amlwg fod Cranogwen yn teimlo cyfrifoldeb am addysgu 'merched a gwragedd' y wlad trwy gyfrwng y cylchgrawn. Yn ogystal â golygu'r cylchgrawn, cyfrannodd cyfran sylweddol o'r deunydd hefyd. Roedd ei chyfraniadau'n cynnwys cerddi, ysgrifau, portreadau o ferched enwog, disgrifiadau o'i theithiau i Loegr a'r UDA - ymhlith yr enghraifftiau cynharaf yn y Gymraeg o Lenyddiaeth taith - ac erthyglau o bob math, gan gynnwys ar bynciau fel dirwest, cenedlaetholdeb a'r bleidlais i ferched neu'n rhoi cyngor bywyd mwy ymarferol, megis Anerchiad Hen Chwaer, Gair at Ferched Ieuainc a Gair at Ferched Cymru, yn ogystal â'r golofn reolaidd Cwestiwn ac Ateb, lle gwasanaethai Cranogwen fel Modryb Gofidion (Agony Aunt) gan ymateb (yn aml yn ffraeth) i broblemau merched ifanc Cymru.
Aeth rhai o gyfraniadau Cranogwen yn groes i fwriad gwreiddiol Williams ar gyfer cylchgrawn ceidwadol ei naws; ac ambell waith roedd neges y cylchgrawn yn ddryslyd ac yn gwrthgyferbyniol oherwydd hyn.[16] Serch hynny, roedd Cranogwen yn awyddus i ddefnyddio'r gyfrol i annog merched ifanc i ysgrifennu a darganfod eu lleisiau. Ymddangosai colofn Ein Gohebwyr Ieuainc yn rheolaidd, a roedd cystadlaethau traethawd misol hefyd. Bu'n dweud y drefn yn dilyn un cystadleuaeth yn 1879 - 'Deuwch ferched, ym mha le yr ydych? Bechgyn yw y rhan amlaf o ysgrifwyr, a gwyddoch mai arnoch chwi yn bennaf yr oedd ein golwg.'[15] Dan olygyddiaeth Cranogwen daeth Y Frythones yn gyfrwng i hyrwyddo gyrfaoedd nifer sylweddol o ferched llenyddol y Gymraeg yn y cyfnod, yn eu plith Ellen Hughes, Ceridwen Peris Catherine Prichard (Buddug) a Mary Oliver Jones. Cyfeiriwyd at y genhedlaeth hon o awduresau fel "Y Brythonesau" oherwydd eu cysylltiad â'r cylchgrawn.[17]
Camodd yn ôl o'i dyletswyddau golygyddol oherywdd ei hiechyd ar ddiwedd yr 1889, ond parhaodd Y Frythones nes 1891.
Pregethu a Gwaith Dirwestol (1889-1916)
golyguParhaodd Cranogwen i ddarlitihio'n gyhoeddus drwy gydol ei chyfnod gyda'r Frythones. O ganlyniad i raddau sylweddol i weithgarwch Cranogwen ei hun roedd y rhagfarn yn erbyn llefaru cyhoeddus gan ferched yn ymcilio; fodd bynnag roedd cyndynrwydd o hyd i dderbyn merched fel pregethwyr.[18] Bu Cranogwen yn weithgar o fewn ei henwad erioed, ond er gwaethaf rhai gwahoddiadau i wneud hynny gan gapeli yn ystod yr 1870au, nid ymgymerodd â phregethu. Newidiodd hyn erbyn diwedd yr 1880au a phan ymwelodd â'r UDA am yr eildro yn 1888 gwnaeth hynny fel pregethwr, nid darlithydd seciwlar. Trodd yn gynyddol at bregethu yn hytrach na darlithio o hynny ymlaen.
Roedd Cranogwen wedi bod yn hyrwyddo dirwest mor bell yn ôl â 1869[19] ac roedd yn bwnc a drafodwyd nifer o weithiau ar dudalennau'r Frythones, a parhaodd Cranogwen a'i gwaith ymgyrchu wedi ei chyfnod gyda'r cylchgrawn. Ym mis Mawrth 1901, sefydlodd Undeb Dirwestol i Ferched y Ddwy Rondda, a newidiodd ei enw i Undeb Dirwestol Merched y De yn Ebrill y flwyddyn honno, ac hyrwyddo'r undeb hwn oedd prif gwaith Cranogwen o 1901 hyd at ei marwolaeth yn 1916.[20] Bu'n Ysgrifenyddes y Mudiad am bymtheg mlynedd, nes gorfod rhoi'r gorau iddi oherwydd gwaeledd.
Bu farw'n gymharol sydyn ym mis Mehefin 1916, a'i chladdu yn eglwys plwyf ei phentref genedigol, Llangrannog. Yn ystod ei blynyddoedd olaf roedd Cranogwen wedi cychwyn ar y gwaith o sefydlu lloches i ferched oedd yn dioddef o broblemau yfed a digartrefedd, ac erbyn 1922, roedd merched y Rhondda wedi llwyddo i gasglu'r cyllid a phrynu thŷ addas; agorwyd Llety Cranogwen er cof amdani yn y Rhondda ym mis Mehefin y flwyddyn honno.
Bywyd Personol
golyguNi phriododd Cranogwen erioed; ei chymydog, Jane Thomas, oedd ei chymar oes, ac mae'n bosib mai hi oedd testun un o gerddi mwyaf personol Cranogwen, 'Fy Ffrynd', a gynhwysai linellau megis 'Dy ddilyn heb orphwyso wna/ Serchiadau pura'm calon'.[21] Mae geiriau'r gerdd yn awgrymu fod mwy i'w perthynas na chyfeillgarwch yn unig, ac wedi marwolaeth rhieni Cranogwen, bu'r ddwy yn byw gyda'i gilydd am ugain mlynedd olaf ei bywyd. Er nad oes modd profi'n ddi-gamsyniol bod perthynas rhywiol rhwng Cranogwen ag unrhyw unigolyn arall, roedd cyfeillgarwch ramantaidd rhwng merched yn eithaf cyffredin ar y pryd, ac yn cael ei dderbyn gan nad oedd syniadau Fictorianaidd am rywioldeb yn cydnabod bodolaeth lesbiaeth.
Yn ystod ei bywyd roedd cryn chwilfrydedd ynghylch ei statws priodasol, gyda Chranogwen ei hun yn awgrymu drwy ei hysgrifau nad oedd diddordeb ganddi mewn priodi.[22] Awgryma ei chofiannydd Jane Aaron na amharodd yr agwedd hon ar ei bywyd personol ar yrfa Cranogwen, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb bod ei ymwrthod â dynion wedi ychwnaegu at ei 'phurdeb' yn nhyb ei chymdeithas.[23]
Gwaddol
golyguYn ystod ei bywyd
golyguMewn teyrngedau iddi adeg ei marwolaeth disgrifiwyd hi fel "arweinydd merched Cymru"[24] a "Prif ferch Cymru."[25] Mae ei cherddi'n cynnig enghraifftiau prin o berspectif benywaidd ym marddoniaeth Gymraeg y cyfnod, a thema cyston yn ei darlithoedd a'i chyfraniadau at Y Frythones oedd pwyslais ar i ferched gyflawni eu potensial a bod yn ddefnyddiol i'w cymdeithas yn eu hawl eu hunain, ac nid yn unig fel mamau a gwragedd. Meddai O. M. Edwards amdani,
Yr oedd gan Granogwen gennad, ac amcan uchel. A llwyddodd. Ni fu yr un ferch yn ein hanes eto wnaeth fwy i gryfhau meddylgarwch, hunan-barch a defnyddioldeb merched Cymru na Chranogwen.[26]
Dan olygyddiaeth Cranogwen roedd Y Frythones yn gyfrwng i ferched llenyddol yr oes fel gael cyhoeddi eu gwaith Ellen Hughes, Ceridwen Peris Catherine Prichard (Buddug) a Mary Oliver Jones ymysg eraill; roedd Cranogwen yn allweddol wrth eu hannog i ysgrifennu. Daeth y rhain yn eu tro yn ddylanwad ar genhedlaeth hwyrach o lenorion benywaidd fel Gwyneth Vaughan, Sara Maria Saunders, Fanny Edwards a Winnie Parry.[27]
Serch hynny, yn y degawdau ar ôl ei marwolaeth, pylodd Cranogwen o'r ymwybyddiaeth gyhoeddus, ac ychydig yw'r sôn amdani yn yr ugeinfed ganrif wedi ei marwolaeth. Awgryma ei chofiannydd Jane Aaron bod hyn yn rannol oherwydd ei chysylltiad â'r mudiad dirwest aethai'n anffasiynnol erbyn canol y ganrif yn sgil methiant y Gwaharddiad yn yr Unol Daleithiau.[28] O bwys hefyd efallai yw'r ffaith na chyhoeddodd unrhyw lyfrau heblaw Caniadau Cranogwen, ac nid oes unrhyw cofnod uniongyrchol wedi goroesi o'i darlithoedd na'i phregethau.
Ail-asesiad yn yr 21g
golyguYn ystod yr unfed ganrif ar hugain fodd bynnag, yn sgil diddordeb newydd mewn lleisiau hanesyddol o berspectifau benywaidd ac LHDTC+, mae hi wedi dod yn destun nifer cynyddol o astudiaethau beirniadol ac ysgolheigaidd. Cyhoeddwyd cofiant sylweddol iddi yn 2023 gan Jane Aaron fel rhan o'r gyfres Dawn Dweud.[29] Disgrifiodd Aaron ei harwyddocad fel a ganlyn:
Cofir hi yn bennaf oll heddiw fel arloeswraig ffeminyddol ac mae hynny'n hollol ddilys. Ei phrif gyfraniad oedd ei gwaith o 1865 ymlaen yn annog merched eraill i chwalu cadwynau eu histaddiad yn ystod oes Fictoria, drwy ei hesiampl a thrwy ei hyfforddiant.[30]
Yn 2019 roedd Rees ymhlith pum menyw ar y rhestr fer fel testun gwaith celf i’w gosod yng Nghaerdydd.[31] Ym mis Rhagfyr 2021 comisiynwyd Sebastien Boyesen i greu cerflun ffigurol o Cranogwen yn Llangrannog, y trydydd a gomisiynwyd gan ymgyrch cerflun Merched Mawreddog (Monumental Welsh Women).[32] Cafodd y cerflun ei ddadorchuddio mewn seremoni i goffau ei bywyd ar 10 Mehefin 2023.[33]
Mae llong patrôl pysgodfeydd o Aberdaugleddau sy'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru wedi'i enwi ar ôl Cranogwen.[34]
Mewn Ffuglen
golyguYn nofel William Llewelyn Williams Gŵr y Dolau (1896), pan daw hi i'r amlwg bod y cymeriad Gladys yn gallu barddoni, mae'r llaethwraig Leisa'n mynegi ei syndod: "Chlywes i ddim sôn am un fenyw arall ond Cyrnogwen [sic] 'odd yn gallu gwneud hynny."[35]
Delweddau
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Gwaith Cranogwen
- Caniadau Cranogwen (1870)
- Gweithiau amdani
- D. G. Jones, Cofiant Cranogwen (Bangor, d.d. = 1920s?)
- Gerallt Jones, Cranogwen (1982)
- ‘Cranogwen’ yn Mamwlad: Merched Dylanwadol Cymru, Beryl H. Griffiths (Gwasg Carreg Gwalch)
- Cranogwen: A Pioneering Preacher | welldigger (daibach-welldigger.blogspot.com)
- Jane Aaron, Cranogwen (2023)
Ffynonellau
golygu- Aaron, Jane (2023). Cranogwen. Gwasg Prifysgol Cymru.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rees, Sarah Jane (Cranogwen)". Y Bywgraffiadur. Cyrchwyd 2025-03-20.
- ↑ Aaron, t. 249.
- ↑ Aaron, t. 249.
- ↑ Aaron, t. 38-41.
- ↑ Aaron, t. 17.
- ↑ Aaron, t. 53.
- ↑ Aaron, t. 53.
- ↑ Aaron, t. 54.
- ↑ Aaron, t. 60.
- ↑ Aaron, t. 67.
- ↑ Aaron, t. 79.
- ↑ Aaron, t. 85.
- ↑ Aaron, t. 86.
- ↑ Aaron, t. 67.
- ↑ 15.0 15.1 BRYTHONES. (1879–89). Y Frythones. cyf. 1. rhif 1-cyf. 6. rhif 12: cyf. 9. [rhif] 1-cyf. 14. [rhif] 12. 1 onawr-Tachwedd 1884: Ionawr 1887-Rhagfyr 1889. OCLC 558717169.CS1 maint: date format (link)
- ↑ Aaron, t. 157-9.
- ↑ Aaron, t. 178.
- ↑ Aaron, t. 212.
- ↑ Aaron, t. 229.
- ↑ Aaron, t. 225.
- ↑ Rees, Sarah Jane. Caniadau Cranogwen. Dolgellau.
- ↑ Aaron, t. 152.
- ↑ Aaron, t. 143.
- ↑ Ellen Hughes, 'Cranogwen', Y Cymro, 5 Gorffennaf 1916.
- ↑ Ceridwen Peris, 'Cranogwen', Y Cymro, 5 Gorffennaf 1916.
- ↑ O. M. Edwards, 'Llyfrau a Llenorion', Cymru (Medi 1916) t.141
- ↑ Aaron, t. 178.
- ↑ Aaron, t. 143.
- ↑ Aaron, Jane (2023). Cranogwen. Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ Aaron, t. 249-50.
- ↑ "BBC - Hidden Heroines / Merched Mawreddog". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-15.
- ↑ "Penodi Sebastien Boyesen i greu cerflun Cranogwen". BBC Cymru Fyw. 2021-12-01. Cyrchwyd 2023-10-15.
- ↑ "Dadorchuddio cerflun o'r bardd Cranogwen yn Llangrannog". BBC Cymru Fyw. 2023-06-10. Cyrchwyd 2023-10-15.
- ↑ Cymru, Llywodraeth. Business Justification Case (BJC) for the replacement of Fisheries At-Sea Enforcement Assets for the Marine and Fisheries Division. https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2020-12/atisn14432doc1.pdf.[dolen farw]
- ↑ Williams, W. Llewelyn, Gŵr y Dolau, Melin Bapur t.87