Mary Vaughan Jones

llenor Cymraeg i blant

Athrawes a nofelydd plant Cymraeg oedd Mary Vaughan Jones (28 Mai 1918 - Chwefror 1983).[1] Mae'n adnabyddus am ei storiau i blant ifanc yn cynnwys Sali Mali a'i ffrindiau.

Mary Vaughan Jones
Ganwyd28 Mai 1918 Edit this on Wikidata
Maenan Edit this on Wikidata
Bu farw1983 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Wigfa, Maenan[2] ger Llanrwst.[3][4]. Bu farw yn 1983 yn ardal Rhuddlan, Clwyd.

Bywgraffiad golygu

Ysgrifennodd tua deugain o lyfrau dros ei hoes, gan gyfrannu'n gyson i faes llenyddiaeth plant a cylchgronnau'r Urdd. Yn ystod ei gyrfa fel athrawes, dysgodd yn:

Sefydlwyd gwobr er mwyn coffáu ei chyfraniad i lenyddiaeth.

Gwaith golygu

  • Cyfres Darllen Stori: 1. Sali Mali (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1969)
  • Cyfres Darllen Stori: 2. Y Pry Bach Tew (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1969)
  • Cyfres Darllen Stori: 3. Annwyd y Pry Bach Tew (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1972)
  • Cyfres Darllen Stori: 4. Jaci Soch (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1969)
  • Cyfres Darllen Stori: 5: Tomos Caradog, 1969
  • Cyfres Darllen Stori: 7. Pastai Tomos Caradog (Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ebrill 1997)
  • Cyfres Darllen Stori: 8. Morgan a Magi Ann (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1975, ac wedyn yn 2002)
  • Cyfres Darllen Stori: 9. Siencyn (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1975)
  • Cyfres Darllen Stori: Bobi Jo (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1976)
  • Llyfrau Dau Dau: Rhigymau Jac y Jwc
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Bach Jac y Jwc
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Jac y Jwc
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Bach Nicw Nacw
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Nicw Nacw
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Bach Dwmplen Malwoden
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Dwmplen Malwoden
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Bach Guto
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Guto
  • Llyfrau Dau Dau: Llyfr Mawr Culhwch
  • Llyfrau Dau Dau: Storïau Llafar 1
  • Llyfrau Dau Dau: Canllaw Athrawon
  • Cynllun y Porth: Ni ein Hunain - Y Goeden
  • Y Dynion Bach Od
  • Ben y Garddwr a Storïau Eraill (Enillydd Gwobr Tir na n-Og 1989)
  • Sami Seimon a Storïau Eraill
  • Begw'r Iâr yn Mynd am Dro (Cyhoeddwyd gyntaf yn 1980)

Ail-gyhoeddir y llyfrau rhain gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion. Seilir nifer o lyfrau newydd ar Sali Mali a'i chymeriadau eraill, er enghraifft: Sali Mali a'r Ceffyl Gwyllt, Dylan Williams, 2006. Seilir nifer o raglenni teledu a chynnyrch cysylltiedig ar ei chymeriadau hefyd gan S4C. Darlunwyr y lluniau gwreiddiol yn lyfrau Mary Vaughan Jones gan Jac Jones.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Llythyr yn Eco'r Wyddfa. Eco'r Wyddfa (Rhagfyr 1983). Adalwyd ar 3 Chwefror 2016.
  2. Firs Cottage: Mary and Jack Marrow of Firs Cottage, Maenan, delve into the history of their home, bbc.co.uk/wales/northwest
  3. Mynegai Genedigaethau Lloegr a Chymru.
    Ebrill/Mai/Mehefin 1918; Mary V Jones; Cyfenw mam cyn priodi: Vaughan; Ardal Cofrestru: Llanrwst; Cyfrol: 11b; Tudalen 0839
  4. Mynegai Marwolaethau Lloegr a Chymru.
    Ebrill/Mai/Mehefin 1983; Mary Vaughan Jones; Dyddiad geni: 28 Mai 1918; Ardal Cofrestru: Rhuddlan, Clwyd; Cyfrol: 24; Tudalen 529

Dolen allanol golygu