Jac Jones

darlunydd Cymreig ac awdur plant

Darlunudd llyfrau plant Cymraeg yw Jac Jones (ganed 1 Mawrth 1943).

Jac Jones
Ganwyd1 Mawrth 1943 Edit this on Wikidata
Gwalchmai Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yng Ngwalchmai, Ynys Môn, ac fe'i magwyd ym Mryste tan yn 7 oed, cyn symyd yn ôl i Walchmai. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Gwalchmai ac Ysgol Uwchradd Llangefni.

Mae wedi darlunio llyfrau i blant ers canol y 70au.[1] Enillodd wobr Tir na n-Og deirgwaith, ym 1989, 1990 a 1998. Yn 2000, ysgrifennodd yn ogystal â darlunio, llyfr yn Gymraeg ac yn Saesneg – Betsan a’r Bwlis ac Alison and the Bully Monsters. Ymysg ei ddarlunwaith mae'r llyfrau Penillion y Plant, Trysorfa gan T. Llew Jones a nifer fawr o lyfrau Mary Vaughan Jones a chymeriadau iconig megis Sali Mali a Jac y Jwc. Addas felly oedd iddo enill Tlws Mary Vaughan Jones yn 2012, tlws a gyflwynir i rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad arbenig i lenyddiaeth plant Cymraeg.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Rhestr Awduron Cymru: Jones, Jac. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
  2.  Anrhydeddu Darlunydd ac Awdur Llyfrau Plant Tlws Mary Vaughan Jones 2012 (13 Ebrill 2012).

Dolenni allanol golygu