Ysgol Gymraeg Aberystwyth

ysgol gynradd yn Aberystwyth, Ceredigion

Ysgol gynradd Gymraeg yn Aberystwyth ydy Ysgol Gymraeg Aberystwyth (neu Ysgol Gymraeg yr Urdd fel y'i hadnabyddir yn wreiddiol). Hwn oedd ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru.[1]

Ysgol Gymraeg yr Urdd
Mathysgol, ysgol Gymraeg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1939 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAberystwyth Edit this on Wikidata
SirCymru, Ceredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.41°N 4.07°W, 52.4102°N 4.07124°W Edit this on Wikidata
Cod postSY23 1HL Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Agorwyd yr ysgol ar 25 Medi 1939 dan nawdd Urdd Gobaith Cymru ac fe'i sefydlwyd gan Syr Ifan ab Owen Edwards fel ysgol breifat, a chodwyd tâl o 4 gini y tymor.[2] Y brifathrawes oedd Norah Isaac, a gyflogwyd am £160 y flwyddyn. Saith disgybl oedd yn ei mynychu i ddechrau: Owen Edwards, Non Gwynn, James Jenkin, Daniel G. Jones, John Wyn Meredith, John Parry a Ruth Thomas. Tyfodd nifer y plant yn gyson: 17 yn 1940, 32 yn 1942, a 56 yn 1944.

Bu ei sefydlu yn drobwynt yn hanes addysg yng Nghymru gan iddi arloesi'r maes a bod y gyntaf o lawer o ysgolion Cymraeg a sefydlwyd wedi hynny, y rhan fwyaf ohonynt gan Awdurdodau Addysg lleol.

Agorwyd yr ysgol gyntaf ar Ffordd Llanbadarn, gan symud i safle yn Lluest ym 1946. Symudodd unwaith eto i safle Ysgol Ffordd Alecsandra ym 1952. Ym 1989 symudodd i'w safle presennol ym Mhlascrug.[2]

Presennol golygu

 
Placiau Ysgol Gymraeg Aberystwyth ym mynedfa'r Ysgol

Dechreuodd yr ysgol gyda dim ond 7 o ddisgyblion, ond mae hyn wedi tyfu i dros 400 heddiw; ehangodd yr ysgol lawer yn ystod yr 1980au a'r 1990au pan ddechreuodd rhieni weld gwerth addysg ddwyieithog.[3] Daeth tua 48% o ddisgyblion yr ysgol o aelwydydd Cymraeg eu hiaith yn 2009.[4] Erbyn heddiw mae gan yr ysgol 18 o athrawon, dros 20 cynorthwyydd, a 15 o staff ategol.[3]

Y prifathro ar hyn o bryd yw Mr. Clive Williams.[3]

Cyn-athrawon o nod golygu

Cyn-ddisgyblion o nod golygu

Cysylltiadau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Dadorchuddio plac i gofio'r Ysgol Gymraeg gyntaf , BBC Cymru Fyw, 25 Medi 2012. Cyrchwyd ar 18 Mehefin 2019.
  2. 2.0 2.1  Birthday bash for first Welsh school. Cambrian News (1 Hydref 2009).
  3. 3.0 3.1 3.2 "Gair o groeso gan y Pennaeth". Ysgol Gymraeg Aberystwyth.
  4. "Adroddiad Arolwg Estyn" (PDF). Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Ebrill 2009.
  5. "Dathlu pen-blwydd yr ysgol Gymraeg gyntaf yn 75". BBC Cymru Fyw. Medi 2014.
  6. "Teyrnged i Owen Edwards". S4C. Awst 2010.
  7. "Cymro yw pennaeth newydd BBC Radio 1". BBC Cymru Fyw. Mehefin 2020.
  8. "Georgia Ruth yn agor y Prynhawn Coffi". Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Mawrth 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.