Mary Warnock
Athronydd o Loegr oedd Mary Warnock, y Farwnes Warnock (14 Ebrill 1924 – 20 Mawrth 2019)[1] sy'n nodedig am ei gwaith ym moeseg, y meddwl, ac addysg, yn ogystal â dirfodaeth.
Mary Warnock | |
---|---|
Ganwyd | Helen Mary Wilson 14 Ebrill 1924 Caerwynt |
Bu farw | 20 Mawrth 2019 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, academydd, gwleidydd, llenor |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi, prifathro, pennaeth |
Cyflogwr |
|
Tad | Archibald Edward Wilson |
Mam | Ethel Mary Schuster |
Priod | Geoffrey Warnock |
Plant | Kathleen Warnock, Felix Geoffrey Warnock, James Marcus Alexander Warnock, Stephana Warnock, Grizell Maria Warnock |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Medal Albert, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol, Cydymaith Anrhydeddus |
Mae'n fwyaf adnabyddus am adroddiad pwyllgor ymchwil (a fu'n aredig y tir ar gyfer y Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 1990) a gadeiriodd. Gwasanaethodd fel Meistres Coleg Girton, Caergrawnt o 1984 i 1991.
Addysg a choleg
golyguGaned Helen Mary Wilson yng Nghaerwynt ar 14 Ebrill 1924, yr ieuengaf o saith o blant. Roedd ei mam Ethel yn ferch i'r bancwr a'r ariannwr llwyddiannus Felix Schuster. Bu farw ei thad, Archibald Wilson, cyn ei geni ac ni phriododd ei mam eilwaith.[2][3][4][5][6]
Mynychodd sawl ysgol gan gynnwys St Swithun's School, Prior's Field cyn astudio'r clasuron yn Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen.[7][8] Cafodd ei hastudiaethau eu rhewi yn ystod y rhyfel; ymunodd â byddin Lloegr ac fe'i rhoddwyd i addysgu am ddwy flynedd yn Ysgol y Merched Sherborne yn Dorset. Dychwelodd i Rydychen a graddiodd yn 1948.
O 1949–66, roedd Warnock yn gymrawd ac yn diwtor mewn athroniaeth yng Ngholeg St Hugh's, Rhydychen lle cyfarfu â'i darpar ŵr Geoffrey Warnock, a oedd yno'n gymrawd o Goleg Magdalen. O 1966 i 1972, roedd yn Brifathrawes yn Ysgol Uwchradd Rhydychen i Ferched, gan roi'r gorau i'r swydd pan benodwyd ei gŵr yn brifathro Coleg Hertford, Rhydychen.
Gwaith dros achosion da
golyguOherwydd ei chefndir fel addysgwr, penodwyd Warnock ym 1974 i gadeirio ymchwiliad y DU ar addysg arbennig. Daeth ei hadroddiad, a gyhoeddwyd ym 1978, â newid sylfaenol yn y maes, trwy roi pwyslais ar addysgu plant ag anableddau dysgu yn y prif ffrwd a chyflwyno system o "ddatgan" plant er mwyn iddynt gael hawl i gymorth addysgol arbennig.
Roedd Warnock yn aelod o'r Awdurdod Darlledu Annibynnol o 1972–83. Yn 1980, cafodd ei hystyried yn Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr y BBC.
Yn 2008, achosodd Warnock, a fu'n eiriolwr ymroddedig i ewthanasia, cryn ddadl oherwydd ei barn y dylai pobl â Gorddryswch (dementia) gael yr hawl i ddewis marw os oeddent yn teimlo eu bod yn "faich i'w teulu neu'r wladwriaeth".[9][10]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o'r Academi Brydeinig am rai blynyddoedd. [11][12][13]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (1983), Medal Albert (1998), Cymrawd yr Academi Brydeinig (2000), Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol (2011), Cydymaith Anrhydeddus (2017)[14] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Jane O'Grady, "Lady Warnock obituary", The Guardian, 21 Mawrth 2019. Adalwyd ar 25 Mawrth 2019.
- ↑ Rhyw: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/ Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 13 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Mary Warnock". ffeil awdurdod y BnF. "[Helen] Mary Wilson". "Helen Mary Wilson, Baroness Warnock". The Peerage. "Mary Warnock". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: https://www.theguardian.com/books/2019/mar/21/lady-warnock-obituary. "Mary Warnock". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Brown, Andrew (19 Gorffennaf 2003). "The practical philosopher". The Guardian. Cyrchwyd 11 Hydref 2011.
- ↑ "The House I Grew up In featuring Mary Warnock". The House I Grew Up In. 2008-09-17. BBC. BBC Radio 4. http://www.bbc.co.uk/radio4/thehouseigrewupin/pip/0ayop/.
- ↑ Beckford, Martin (19 Medi 2008). "Baroness Warnock: Dementia sufferers Mai have a 'duty to die'". Telegraph. Cyrchwyd 3 Chwefror 2009.
- ↑ "Dementia patients' 'right-to-die'". BBC News. Cyrchwyd 3 Medi 2009.
- ↑ Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022.
- ↑ Aelodaeth: https://www.thebritishacademy.ac.uk/fellows/mary-warnock-FBA-hon. dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.thebritishacademy.ac.uk/fellows/mary-warnock-FBA-hon. dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.
- ↑ https://www.thebritishacademy.ac.uk/fellows/mary-warnock-FBA-hon. dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.