Nofelydd a bardd romantaidd oedd Mary Gladys Webb (25 Mawrth 18818 Hydref 1927) o ddechrau'r 20g. Roedd ei gwaith wedi'i osod yn bennaf yng nghefn gwlad Swydd Amwythig ac ymhlith cymeriadau a phobl rodd yn eu hadnabod. Mae ei nofelau wedi'u troi'n ddramâu llwyddiannus, a'r enwocaf o'r rheini yw'r ffilm Gone to Earth yn 1950 gan Michael Powell a Emeric Pressburger. Dyna oedd ysbrydoliaeth y parodi enwog Cold Comfort Farm.

Mary Webb
Mary webb.jpg
Ganwyd 25 Mawrth 1881 Edit this on Wikidata
Swydd Amwythig Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Hydref 1927 Edit this on Wikidata (46 oed)
St Leonards Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaeth ysgrifennwr, nofelydd, bardd Edit this on Wikidata

BywgraffiadGolygu

Ganwyd dan yr enw Mary Gladys Meredith yn 1881 yn Leighton Lodge ym mhentref Leighton,[1] 8 milltir (13 km) i'r de ddwyrain i'r Amwythig. Ysbrydolodd ei thad, George Edward Meredith, a oedd yn athro mewn ysgol breifat,[2] ei ferch gyda'i gariad ei hun tuag at lenyddiaeth a chefn gwlad lleol. Ar ochr ei mam, Sarah Alice, roedd hi'n ddisgynnydd i deulu a oedd yn perthyn i Syr Walter Scott. Archwiliodd Mary y cefn gwlad o amgylch cartref ei phlentyndod, a datblygodd allu i sylwi a disgrifio'n fanwl, a hynny â phobl a llefydd, a welwyd hynny'n hwyrach yn rhan o'i barddoniaeth a rhyddiaeth.

Pan roedd hi'n flwydd oed, symudodd gyda'i rhieni i Much Wenlock, a buont yn byw mewn tŷ o'r enw The Grange y tu allan i'r dref. Dysgwyd Mary gan ei thad, ac yna anfonwyd hi i ysgol fonedd i ferched yn Southport yn 1895. Symudodd y teulu eto i'r Swydd Amwythig, cyn gwneud eu cartref yn Meole Brace, ar ochrau'r Amwythig yn 1902.

Pan roedd hi'n ugain oed, datblygodd symptomau clefyd Graves, salwch thyroid a arweiniodd at lygaid chwyddedig a chwydd y gwddf, ac achosodd hyn salwch gwael drwy gydol ei bywyd ac roedd yn debygol o fod wedi cyfrannu at ei marwolaeth cynnar. 

Y gwaith cyntaf a gyhoeddwyd ganddi oedd cerdd pum pennill, a ysgrifennwyd ar ôl clywed y newyddion am ddamwain rheilffordd yr Amwythig ym mus Hydref 1907. Er brawd anfonodd y gerdd at bapur newyddion heb ddweud wrthi, a gyhoeddodd y gerdd yn ddi-enw. Roedd Mary fel arfer yn llosgi ei cherddi cynnar, ac roedd hi wedi dychryn tan iddi glywed bod y papur wedi derbyn llythyron yn gwerthfawrogi ei gwaith gan ei ddarllenwyr.[3]

Bywyd personolGolygu

Priododd Henry Bertram Law Webb yn 1912, athro a oedd yn cefnogi ei diddordebau llenyddol i ddechrau. A buont yn byw yn Weston-super-Mare, yn symud yn ôl i Swydd Amwythig. 

Dyna lle ysgrifennodd Mary The Golden Arrow, ac ar ôl ei gyhoeddi yn 1917 symudon nhw i Lyth Hill, Bayston Hill ac adeiladu bwthyn ar ddarn o dir yno.

Yn 1921, bu iddynt brynu ail dŷ yn Llundain gan obeithio y bydd hi'n derbyn rhagor o gydnabyddiaeth llenyddol. Fodd bynnag, ni ddigwyddodd hyn. Erbyn 1927 roedd ei salwch yn gwaethu, ac roedd pethau'n mynd o chwith yn ei phriodas. Bu iddi farw yn 46 oed yn Spring Cottage. Claddwyd hi yn yr Amwythig.[4][5][6]

GwaithGolygu

  • The Golden Arrow (Gorffennaf 1916). Llundain : Constable.
  • Gone to Earth (Medi 1917). Llundain : Constable.
  • The Spring of Joy; a little book of healing (Gorffennaf 1917). Llundain : J. M. Dent.
  • The House in Dormer Forest (July 1920). Llundain : Hutchinson.
  • Seven For A Secret; a love story (Hydref 1922). Llundain : Hutchinson.
  • Precious Bane (July 1924). Llundain : Jonathan Cape.
  • Poems and the Spring of Joy (Essays and Poems) (1928). Llundain : Jonathan Cape.
  • Armour Wherein He Trusted: A Novel and Some Stories (1929). Llundain : Jonathan Cape.
  • A Mary Webb Anthology, edited by Henry B.L. Webb (1939). Llundain : Jonathan Cape.
  • Fifty-One Poems (1946). Llundain : Jonathan Cape. Gyda charfiadau pren gan Joan Hassall
  • The Essential Mary Webb, edited by Martin Armstrong (1949). Llundain : Jonathan Cape.
  • Mary Webb: Collected Prose and Poems, edited by Gladys Mary Coles (1977). Yr Amwythig : Wildings.
  • Selected Poems of Mary Webb, edited by Gladys Mary Coles (1981). Cilgwri : Headland

CofebauGolygu

Datgelwyd cofeb o Mary Webb, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Mary Webb, ar dir Llyfrgell yr Amwythig ar 9 Gorffennaf 2016.[7]

CyfeiriadauGolygu

  1. Dickins, Gordon (1987). An Illustrated Literary Guide to Shropshire. Shropshire Libraries. tt. 74, 99. ISBN 0-903802-37-6.
  2. Dickins, Gordon (1987). An Illustrated Literary Guide to Shropshire. t. 74.
  3. Francis, Peter (2006). A Matter of Life and Death - The Secrets of Shrewsbury Cemetery. Logaston Press. t. 41. ISBN 1-904396-58-5.
  4. Francis, Peter (2006). A Matter of Life and Death, The Secrets of Shrewsbury Cemetery. Logaston Press. t. 55. ISBN 1-904396-58-5.
  5. "Mary Webb: brighter and better than Thomas Hardy". The Guardian. 10 March 2009. Cyrchwyd 16 July 2015.
  6. "Biography". The Mary Webb Society. Cyrchwyd 16 July 2015.
  7. "Literary legend's bust to be unveiled in park". Shropshire Star. 9 July 2016. t. 7.
  • Barale, Michele Aina. Daughters and Lovers: The Life and Writing of Mary Webb. 1986

Dolenni allanolGolygu