Matt Illingworth
Seiclwr trac a ffordd o Loegr ydy Matt Illingworth (ganwyd 25 Gorffennaf 1968 Westcliff, Essex).[1] Mae'n reidiwr cryf iawn ym maes Pursuit a Threial Amser unigol a thîm ar y trac a'r ffordd, ac wedi ennill medal arian drost Brydain yn Nhreial Amser Tîm Gemau'r Gymanwlad yn 1994, medal arian yn Pursuit Tîm ac efydd yn y Pursuit unigol yng Ngemau'r Gymanwlad 1998.
Matt Illingworth | |
---|---|
Ganwyd | 25 Gorffennaf 1968 y Deyrnas Unedig |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Chwaraeon |
Torodd record cystadleuaeth ar gyfer y pellter o 10 milltir yn 1992 a record 30 milltir yn 1998.
Erbyn hyn mae'n byw yn Wellington, Seland Newydd ac yn cymryd rhan mewn triathlonau 'Ironman'.
Canlyniadau
golyguTrac
golygu- 1996
- 3ydd Cymal Yr Almaen, Cwpan y Byd Trac UCI, Pursuit Tîm, (gyda Rob Hayles, Chris Newton, Bryan Steel)
- 3ydd Cymal Yr Eidal, Cwpan y Byd Trac UCI, Pursuit Tîm, (gyda Shaun Wallace, Chris Newton, Bryan Steel)
- 1997
- 1af Cymal Gwlad Groeg, Cwpan y Byd Trac UCI, Pursuit Tîm
1998
- 2il Pursuit Tîm, Gemau'r Gymanwlad (gyda Jon Clay, Rob Hayles & Colin Sturgess)
- 3ydd Pursuit, Gemau'r Gymanwlad
- 1999
- 1af Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Russell Downing, Chris Newton & Julian Winn)
- 2il Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
Ffordd
golygu- 1992
- 1af Cymal 2, Ras Premier Calendar, 3 ddiwrnod Girvan
- 1994
- 2il Treial Amser Tîm, Gemau'r Gymanwlad
- 1998
- 3ydd Cyfres Premier Calendar
- 1af Ras Premier Calendar, 2 ddiwrnod Silver Spoon
- 1af Cymal 1, Silver Spoon
- 2il Cymal 2, Silver Spoon
- 1af Cymal 3, Ras Premier Calendar, 3 ddiwrnod Girvan
- 1af Cymal 4, Ras Premier Calendar, 3 ddiwrnod Girvan
- 1af Ras Premier Calendar, 2 ddiwrnod Silver Spoon
- 1999
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT 10 milltir
- 2il Ras Premier Calendar, 2 ddiwrnod Silver Spoon
- 2il Cymal 1, Silver Spoon
- 3ydd Cymal 3, Silver Spoon
- 2000
- 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT 50 milltir
- 3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT 10 milltir
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Proffil ar wefan Tîm Linda McCartney". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-15. Cyrchwyd 2007-10-09.