Prif Weinidog yr Eidal ydy Matteo Renzi (ganwyd 11 Ionawr 1975). Bu wrth y llyw fel Prif Weinidog ers 22 Chwefror 2014 ac yn Ysgrifennydd Plaid y Democratiaid ers 15 Rhagfyr 2013. Cyn hyn, ef oedd Llywydd Rhanbarth Fflorens (Firenze) rhwng 2004 a 2009 ac yn Faer Fflorens o 2009 i 2014.[1][2]

Matteo Renzi
Matteo Renzi


Cyfnod yn y swydd
21 Chwefror 2014 – 12 Rhagfyr 2016
Rhagflaenydd Enrico Letta
Olynydd Paolo Gentiloni

Geni 11 Ionawr 1975
Fflorens, Toscana
Priod Agnese Landini
Plant Francesco, Emanuele, Ester
Alma mater Prifysgol Fflorens
Crefydd Catholig
Gwefan matteorenzi.it
Llofnod

Yn 39 oed a 42 diwrnod, Renzi oedd Prif Weinidog ieuengaf yr Eidal ers ei huno yn 1861 - yn iau na Benito Mussolini pan gafodd ei benodi yn 1922, o 52 diwrnod. Ef hefyd yw arweinydd ieuengaf y G7; mae'n cael ei alw'n arweinydd de facto Plaid Sosialaidd Ewrop ac yn gwrthwynebu egwyddorion Angela Merkel a Phlaid y Bobl i'r carn. Gelwir y ddau hyn yn aml yn Merkenzi.[3][4] Yn 2014 fe'i rhestrwyd fel y trydydd person dan 40 oed mwyaf dylanwadol yn y byd gan y cylchgrawn Fortune.[5][6]

Ei lywodraeth a ddaeth i ben 12 Rhagfyr 2016.

Cyfeiriadau golygu

  1. Roe, Alex. "Matteo Renzi takes Florence". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-07. Cyrchwyd 25 Mehefin 2009.
  2. "Italy to swear in new Prime Minister Matteo Renzi". BBC News. 22 Chwefror 2014. Cyrchwyd 22 Chwefror 2014.
  3. "Matteo Renzi coi leader del Pse a Bologna per il lancio della nuova "terza via". In dote, il Jobs act". L'Huffington Post. Cyrchwyd 7 June 2015.
  4. "Professor Kalypso Nicoladis on the prospects of an EU guided by Merkel & Renzi". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-20. Cyrchwyd 7 Mehefin 2015.
  5. "Renzi, al terzo posto tra gli under 40 più influenti al mondo". Repubblica.it. 9 October 2014. Cyrchwyd 7 Mehefin 2015.
  6. "A World Disrupted: The Leading Global Thinkers of 2014". Cyrchwyd 7 Mehefin 2015.