Fforwm rhyngwladol ar gyfer llywodraethau'r Almaen, Canada, yr Eidal, Ffrainc, Japan, y Deyrnas Unedig, ac Unol Daleithiau America yw'r G7 (Grŵp y Saith). Ystyrir y saith gwlad hon yn brif economïau datblygedig ac yn ddemocratiaethau rhyddfrydol cyfoethocaf y byd. Cynhelir uwchgynhadledd flynyddol, dan gadeiryddiaeth gylchredol, i arweinwyr y gwledydd hynny drafod pynciau economaidd a materion rhyngwladol eraill mewn awyrgylch anffurfiol. Yn ogystal â phenaethiaid llywodraethol yr G7, mynychir yr uwchgynadleddau gan arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd.

G7
Map o'r byd yn dangos gwledydd yr G7 mewn glas (a'r Undeb Ewropeaidd mewn gwyrddlas).
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhynglywodraethol, heptad, sefydliad rhyngwladol Edit this on Wikidata
Mathgroup of major economic countries Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1997 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys1st G6 summit, 2nd G7 summit, 3rd G7 summit, 4th G7 summit, 5th G7 summit, 6th G7 summit, 7th G7 summit, 8th G7 summit, 9th G7 summit, 10th G7 summit, 11th G7 summit, 12th G7 summit, 13th G7 summit, 14th G7 summit, 15th G7 summit, 16th G7 summit, 17th G7 summit, 18th G7 summit, 19th G7 summit, 20th G7 summit, 21st G7 summit, 22nd G7 summit, 40th G7 summit, 41st G7 summit, 42nd G7 summit, 43rd G7 summit, 44th G7 summit, 45th G7 summit, 46th G7 summit, Uwchgynhadledd yr G7, 2021 Edit this on Wikidata
RhagflaenyddG6, G8 Edit this on Wikidata
OlynyddG8 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.g7italy.it/en, https://www.g7uk.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cafwyd gwreiddiau'r fforwm mewn cynhadledd anffurfiol ym Mawrth 1973 rhwng Gweinidog Ariannol Gorllewin yr Almaen Helmut Schmidt, Gweinidog Economaidd ac Ariannol Ffrainc Valéry Giscard d'Estaing, a Changhellor Trysorlys y Deyrnas Unedig Anthony Barber, a wahoddwyd i'r Tŷ Gwyn gan Ysgrifennydd Trysorlys yr Unol Daleithiau George Shultz. Rhoddwyd yr enw Grŵp y Llyfrgell arnynt, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno cytunwyd i ychwanegu Japan at y clwb hwn. Rhoddwyd yr enw Grŵp y Pump ar gyfarfodydd rhwng weinidogion ariannol y pum gwlad hon. Newidiodd arweinwyr y pum wlad yn ystod 1974, ac awgrymodd Gerald Ford, Arlywydd yr Unol Daleithiau, uwchgynhadledd iddynt ddysgu am ei gilydd. Ar gais Giscard d'Estaing a Schmidt, a oedd bellach yn Arlywydd Ffrainc a Changhellor Gorllewin yr Almaen, ymgasglodd arweinwyr yr G6—yr G5 yn ogystal â'r Eidal—yn yr uwchgynhadledd gyntaf yn Nhachwedd 1975. Ymunodd Canada â'r fforwm ym 1976, gan ffurfio'r G7, ac ym 1977 gwahoddwyd llywydd y Comisiwn Ewropeaidd i gynrychioli'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd. Ers 1981, mynychwyd uwchgynadleddau'r G7 gan lywydd y Comisiwn Ewropeaidd a llywydd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd. Derbyniwyd Ffederasiwn Rwsia yn aelod, gan ffurfio'r G8, ym 1997. Diarddelwyd Rwsia yn sgil cyfeddiannu'r Crimea ym Mawrth 2014, a dychwelodd y fforwm felly at aelodaeth yr G7.

Sefydliad anffurfiol yw'r G7, heb siarter, ysgrifennydd cyffredinol, na phencadlys ei hun, a dim ond strwythur weinyddol fach. Cyn cynnal yr uwchgynhadledd flynyddol, byddai cynrychiolwyr ar ran yr arweinwyr, a elwir yn aml yn "sherpaid" (llysgenhadon, ysgrifenyddion mewn gweinyddiaethau tramor, a chynghorwyr diplomyddol eraill), yn paratoi ar gyfer y trafodaethau. Wedi'r uwchgynhadledd, bydd gweinidogion yr amryw lywodraethau yn cynnal cyfarfodydd i fanylu ar benderfyniadau'r arweinwyr ac i gynnig argymelliadau i sesiynau Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ac i gynadleddau'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) a Banc y Byd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Group of Eight (G8). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Mehefin 2021.